Stori newyddion

Llywodraeth y DU yn anrhydeddu merched arloesol ym myd amaeth yn Sioe Frenhinol Cymru

Alun Cairns i ddathlu cyfraniadau merched Cymru at ffermio ym Mhrydain yn Sioe Frenhinol Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd merched blaenllaw o鈥檙 sector bwyd a鈥檙 sector ffermio o bob cwr o鈥檙 wlad yn ymuno ag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn digwyddiad i ddathlu cyfraniadau merched Cymru at ffermio ym Mhrydain yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw (24 Gorffennaf).

Ymhlith y sawl fydd yn ymuno ag Ysgrifennydd Cymru fydd Abi Reader, cyn Ffermwraig y Flwyddyn Cymru, Alison Lea-Wilson, sylfaenydd Halen M么n a Dr Nerys Llewelyn Jones, Partner Rheoli Agri Advisor, gyda phob un yn llywio鈥檙 drafodaeth ar hyrwyddo a chynyddu nifer y merched sy鈥檔 troi at y diwydiant i gael gyrfa foddhaus.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae angen i ffermio, fel unrhyw ddiwydiant, ddenu doniau a syniadau newydd a manteisio ar sgiliau merched a dynion fel ei gilydd.

Mae ein digwyddiad heddiw yn gyfle gwych i ni ddathlu鈥檙 cyfraniad mae merched yn ei wneud at ffermio - o beirianneg amaethyddol i gynhyrchu bwyd a chynghori manwerthwyr ac archfarchnadoedd.

Mae鈥檔 bwysig i ni gydnabod r么l flaenllaw merched yn y diwydiant amaethyddol, a gaiff ei ystyried yn aml yn ddiwydiant lle mae dynion fwyaf blaenllaw. Rydw i nawr am weld y diwydiant yn adeiladu ar hyn a mwy o ferched mewn swyddi ym myd ffermio.

Bydd y digwyddiad yn darparu llwyfan i drafod ystod eang o faterion yn ymwneud 芒 merched ym myd ffermio, yn cynnwys y rhwystrau mae merched yn parhau i鈥檞 hwynebu pan fyddant yn dechrau datblygu gyrfa yn y diwydiant, a sut mae annog mwy o ferched a myfyrwyr sy鈥檔 ferched i ystyried ffermio fel dewis gyrfa ddilys.

Bydd y ffermwr godro Abi Reader o Wenf么 ym Mro Morgannwg yn y digwyddiad. Cafodd Ms Reader ei choroni鈥檔 Ffermwraig y Flwyddyn Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru yn 2016 - gwobr sy鈥檔 ceisio hyrwyddo cyfraniad merched at y diwydiant amaethyddol a chodi proffil merched ym myd ffermio.

Dywedodd Ms Reader:

Mae codi proffil merched ym myd ffermio yn bwysig i helpu merched oed ysgol a h欧n i weld y cyfleoedd gwych sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gweithio yn y sector ffermio ac i鈥檞 hysbrydoli nhw i fod yn rhan ohono. Yn rhy aml, bydd merched yn diystyru ffermio fel dewis gyrfa ond gall unrhyw un weithio ym maes cynhyrchu bwyd a rheoli cefn gwlad, ar yr amod bod ganddynt yr ymroddiad a鈥檙 angerdd i wneud hynny.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2018