Abertawe a Tyddewi yn ceisio am deitl Ddinas Diwylliant y DU
11 ardal yn cystadlu am deitl Dinas Diwylliant y DU 2021

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU bod 11 o ardaloedd o bob cwr o鈥檙 wlad wedi cofrestru eu cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021.
Mae Coventry, Henffordd, Paisley, Perth, Portsmouth, Tyddewi a Chantref Pebidiog, Stoke-on-Trent, Sunderland, Abertawe, Warrington a Wells wedi ymuno鈥檔 ffurfiol 芒鈥檙 gystadleuaeth i fod yn drydedd Ddinas Diwylliant y DU.
Heddiw, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi ymrwymo 拢3 miliwn i enillydd teitl Dinas Diwylliant y DU o 2021 ymlaen, er mwyn rhoi hwb i dreftadaeth leol.
I sicrhau鈥檙 arian, bydd angen i鈥檙 ardal lwyddiannus ddangos bod ei rhaglen yn seiliedig ar dreftadaeth a鈥檌 bod yn ehangu ar fuddsoddiad presennol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dywedodd Matt Hancock, y Gweinidog Gwladol dros Faterion Digidol a Diwylliant:
Mae Dinas Diwylliant y DU yn gyfle gwych i drefi a dinasoedd ddathlu eu creadigrwydd, a defnyddio diwylliant i sbarduno twf economaidd.
Rwy鈥檔 falch iawn o weld cymaint o geisiadau o bob cwr o鈥檙 wlad, sy鈥檔 dangos bod llawer iawn o ardaloedd yn cydnabod y r么l bwysig y gall diwylliant ei chwarae wrth ddatblygu ac adfywio cymunedau.
Mae Dinas Diwylliant y DU yn helpu i roi hwb i dwristiaeth, ac yn codi proffil y celfyddydau a diwylliant. Mae鈥檙 ymrwymiad cyllid cyffrous a gyhoeddwyd heddiw gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn gymhelliant arall i drefi gystadlu am y teitl anrhydeddus hwn.鈥�
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Dinas Diwylliant y DU yn deitl anrhydeddus sy鈥檔 dangos y Deyrnas Unedig ar ei gorau. Bydd y ddinas fuddugol yn cael llwyfan gwych i ddenu ymwelwyr, i annog arloesi ac i hybu twf.
Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael profi hyfrydwch a threftadaeth Tyddewi a Chantref Pebidiog ac Abertawe fel ei gilydd, ac rwy鈥檔 hyderus y bydd y ddwy ddinas yn cyflwyno鈥檙 ceisiadau cryfaf posib. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld y ceisiadau hyn yn dod at ei gilydd, ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth gystadlu am y teitl.
Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri:
Mae鈥檙 rhestr hon yn dangos bod dinasoedd y DU yn amlwg yn awyddus iawn i ddathlu eu diwylliant unigryw. Mae treftadaeth, sydd wedi elwa cryn dipyn o gyllid y Loteri Genedlaethol dros y 23 mlynedd diwethaf, yn rhan mor bwysig o hunaniaeth dinas ac mae hefyd yn gwneud cyfraniad enfawr at dwristiaeth, swyddi a鈥檙 economi leol. Gan adeiladu ar y gefnogaeth a roddwyd i Hull ar gyfer 2017, bydd y cyllid hwn yn rhoi cyfle i Ddinas Diwylliant y DU 2021 ddangos ei threftadaeth i鈥檙 byd.
Hull yw鈥檙 ail ddinas i ennill y teitl. Mae ei rhaglen yn cynnwys digwyddiadau diwylliannol dros 365 o ddiwrnodau, ac mae dros 340,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y digwyddiad t芒n gwyllt In With A Bang a Made In Hull. Amcangyfrifir y bydd economi Hull eleni yn cael hwb o 拢60 miliwn yn sgil bod yn Ddinas Diwylliant y DU 2017. Mae鈥檙 ddinas hefyd wedi cael 拢1 biliwn o fuddsoddiad ers ennill y teitl yn 2013.
Bydd rhestr fer yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr haf, cyn cyhoeddi鈥檙 ardal fuddugol ym mis Rhagfyr.
Nodiadau i olygyddion:
-
Bydd yr ymrwymiad cynnar, mewn egwyddor, o 拢3m o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i enillydd teitl Dinas Diwylliant y DU yn galluogi鈥檙 ddinas lwyddiannus i ddechrau cynllunio鈥檔 gynnar, er mwyn sicrhau bod treftadaeth yn rhan hanfodol o鈥檙 rhaglen ddiwylliannol a fydd yn para am flwyddyn.
-
Yn yr un modd 芒 holl ddyfarniadau cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd rhaid cyflwyno cais o鈥檙 ansawdd gofynnol. Drwy gyhoeddi cyllid yn gynnar fel hyn a gosod disgwyliadau clir, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ceisio cynyddu鈥檙 tebygolrwydd o gael cais llwyddiannus.