SLC yn lansio gwasanaeth ymgeisio ar gyfer astudiaethau 么l-raddedig
Gwahodd myfyrwyr 么l-raddedig yng Nghymru i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr

Mae myfyrwyr 么l-raddedig yng Nghymru yn cael eu hannog i am gyllid i fyfyrwyr, wrth i鈥檙 gwasanaeth ymgeisio lansio ar gyfer blwyddyn academaidd 23/24.
Talodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) dros 1.5 miliwn o fyfyrwyr dros 拢22bn mewn benthyciadau cynhaliaeth, grantiau a ffioedd dysgu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf a gwblhawyd (21/22). Wrth i fyfyrwyr ddechrau paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, y neges gan SLC yw cyflwyno ceisiadau cyn gynted 芒 phosibl, fel y bydd eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau鈥檙 tymor.
Gall myfyrwyr 么l-raddedig wneud cais am Fenthyciad Meistr 脭l-raddedig a grant neu Fenthyciad Doethurol 脭l-raddedig yn dibynnu ar y math o gymhwyster y byddant yn astudio ar ei gyfer. Nid oes angen i ddarpar fyfyrwyr gael lle wedi鈥檌 gadarnhau ar gwrs mewn prifysgol neu goleg i wneud eu cais, oherwydd gellir diweddaru manylion y cwrs wrth i fanylion y cwrs gael eu cadarnhau.
Dywedodd Jackie Currie, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gweithrediadau SLC: 鈥淢ae penderfynu astudio ymlaen i addysg 么l-raddedig yn benderfyniad mawr i bob darpar fyfyriwr ac mae llawer i鈥檞 drefnu a鈥檌 reoli cyn i鈥檞 cwrs ddechrau. Bydd llawer o fyfyrwyr sy鈥檔 dilyn astudiaethau 么l-raddedig eisoes yn gyfarwydd 芒 sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr a fy neges iddynt yw gwneud yn si诺r eu bod yn cael eu ceisiadau cyllid i mewn cyn gynted 芒 phosibl. Mae hynny鈥檔 golygu y gallwn sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer cam nesaf eu taith academaidd.鈥� Uchafswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer cwrs meistr yw 拢18,880 sy鈥檔 cynnwys benthyciad o 拢11,885 a grant o 拢6,885. Gall y myfyrwyr hynny sy鈥檔 astudio cymhwyster Doethurol 么l-raddedig wneud cais am fenthyciad o 拢23,395.
Mae hawliau benthyciad yn dibynnu ar amgylchiadau myfyrwyr unigol, oherwydd gall cyrsiau 么l-raddedig amrywio o ran hyd a gellir eu hastudio鈥檔 rhan amser hefyd. Os yw鈥檙 cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd y benthyciad yn cael ei rannu鈥檔 gyfartal ar draws pob blwyddyn o鈥檆h cwrs.
Gall darpar fyfyrwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn: - -
Yn wahanol i fenthyciadau ar gyfer addysg uwch, dim ond unwaith y mae angen i fyfyrwyr 么l-raddedig wneud cais am gyllid myfyrwyr ac nid oes angen iddynt gyflwyno cais am bob blwyddyn o鈥檜 cwrs.