Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu adnewyddu siarter y BBC

Mae Alun Cairns yn croesawu adnewyddu siarter y BBC a'r aelod newydd ar y bwrdd unedol.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Hysbysiad i鈥檙 Wasg:

Heddiw, dywedodd Alun Cairns y bydd cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael gwell gwasanaeth o dan Siarter Frenhinol newydd y BBC, wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi鈥檙 Siarter a鈥檙 Cytundeb Fframwaith sy鈥檔 cyd-fynd 芒 hi.

Bydd y cytundeb yn helpu i sicrhau bod cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael gwasanaeth gwell drwy gynnwys aelod o Gymru ar Fwrdd Unedol newydd y BBC. O hyn ymlaen, bydd y BBC hefyd yn cael ei reoleiddio鈥檔 allanol gan Ofcom, a fydd yn rhoi rhwymedigaethau ar y BBC i adlewyrchu Cymru a bydd modd iddo graffu ar y gorfforaeth.

Mae鈥檙 ddogfen Siarter hefyd yn nodi鈥檙 cytundeb rhwng y BBC ac S4C yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd y cyllid a gaiff S4C drwy ffi鈥檙 drwydded yn aros ar 拢74,500,000 y flwyddyn tan 2021/2022, ac erbyn hynny, bydd adolygiad S4C wedi鈥檌 gwblhau.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy鈥檔 hynod falch y bydd cynulleidfaoedd Cymru yn cael gwasanaeth gwell, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn dilyn cyhoeddi Siarter Frenhinol newydd y BBC. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod Cymru yn cael ei hadlewyrchu鈥檔 well drwy faes darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Drwy gael aelod yn cynrychioli Cymru ar Fwrdd newydd y BBC, bydd llais ein cenedl yn cael ei glywed ar lefel uchaf y BBC. Ochr yn ochr 芒鈥檙 newidiadau i r么l Ofcom, a鈥檙 ffaith ei bod yn ofynnol cynhyrchu cyfran o raglenni yng Nghymru bellach, mae hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous iawn i鈥檙 diwydiannau creadigol yng Nghymru ffynnu.

Mae gennym hanes hir a balch o greu rhaglenni teledu annibynnol yng Nghymru, a bydd cyhoeddiad heddiw yn helpu ein cwmn茂au cynhyrchu i ffynnu a pharhau i wneud cyfraniad gwerthfawr at economi Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Medi 2016