RWM yn nodi ei ddull o werthuso safleoedd ar gyfer GDF
Mae diogelwch, cymunedau a’r amgylchedd yn ystyriaethau allweddol

Bydd diogelwch, cyfleoedd i gymunedau, ac amddiffyn yr amgylchedd yn ystyriaethau allweddol wrth werthuso safleoedd i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF).
Heddiw cyhoeddodd Radioactive Waste Management (RWM) ei ddull o werthuso safle GDF yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn ymgynghoriad cenedlaethol cynhwysfawr ac agored.
Dim ond gyda chymuned barod a safle addas y bydd cyfleuster o’r fath yn cael ei adeiladu. Bydd ‘ffactorau lleoli�, sy’n cael eu harwain gan bolisi a deddfwriaeth y llywodraeth, yn sail i’r sgyrsiau y bydd RWM yn eu cael gyda chymunedau ac wrth werthuso pa mor addas yw safleoedd.
Mae chwe ffactor lleoli, sy’n mynd i’r afael â’r canlynol:
-
Diogelwch � mae’n rhaid i reoleiddwyr annibynnol sicrhau ac ardystio diogelwch. Ni fydd GDF yn cael ei adeiladu oni bai ein bod ni, a nhw, yn fodlon ei fod yn ddiogel.
-
Cymuned � mae cymunedau wrth galon y broses o leoli GDF, a bydd RWM yn ystyried cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd, llesiant cymunedol, a sut gall GDF fod yn gyson â gweledigaeth y gymuned sy’n cynnig lleoliad ar gyfer y cyfleuster.
-
Amgylchedd � mae adeiladu GDF yn ymdrech fawr i amddiffyn yr amgylchedd. Bydd angen i’r broses o adeiladu GDF fodloni gofynion rheoleiddio annibynnol.
-
Dichonoldeb peirianyddol � bydd angen i RWM sicrhau bod lle i ddylunio’n gynaliadwy a bod modd adeiladu a gweithredu GDF mewn lleoliad.
-
Trafnidiaeth � cludo gwastraff, pobl a deunyddiau eraill yn ddiogel.
-
Gwerth am arian � mae dyletswydd ar RWM i sicrhau gwerth am arian.
Dywedodd Prif Weithredwr RWM, Karen Wheeler:
“GDF yw’r ateb tymor hir gorau ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol etifeddol uwch ei actifedd yn ddiogel yn y DU.�
“Dim ond gyda chymuned barod a safle addas y bydd cyfleuster o’r fath yn cael ei adeiladu, felly mae’n bwysig bod cymunedau a’u cynrychiolwyr yn deall sut byddwn yn gwerthuso pa mor addas yw safle.�
“Mae’r dogfennau gwerthuso safle rydyn ni’n eu cyhoeddi heddiw yn nodi’r ‘ffactorau lleoli� y byddwn yn eu defnyddio i asesu addasrwydd wrth i ni weithio gyda chymunedau sydd â diddordeb mewn archwilio manteision a goblygiadau cynnig lleoliad ar gyfer GDF.�