Datganiad i'r wasg

Data gwell nag erioed ar swyddi yn dangos cryfder y farchnad swyddi yng Nghymru

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi syrthio i ffigur is nag erioed gyda nifer uwch nag erioed o bobl yn awr mewn gwaith.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Mae鈥檙 penawdau o Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur yn cynnwys:

  • Mae鈥檙 lefel gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 18,000 dros y chwarter i 1.457 miliwn ac mae鈥檙 gyfradd i fyny 1.2 pwynt canran i 73.2 y cant. Yn ystod y flwyddyn, mae鈥檙 lefel wedi cynyddu 34,000 ac roedd y gyfradd i fyny 1.9 pwynt canran. Mae鈥檙 lefel gyflogaeth a鈥檙 gyfradd gyflogaeth ar y lefel uchaf ar gofnod
  • Mae鈥檙 lefel ddiweithdra wedi gostwng 10,000 dros y chwarter i 63,000 ac mae鈥檙 gyfradd i lawr 0.7 pwynt canran i 4.1 y cant. Yn ystod y flwyddyn, gostyngodd y lefel 35,000 ac mae鈥檙 gyfradd wedi gostwng 2.3 pwynt canran. Mae lefel ddiweithdra ar ei hisaf er 2005 ac mae鈥檙 gyfradd ddiweithdra ar ei hisaf ar gofnod. Mae鈥檙 gyfradd yng Nghymru bellach 0.8 pwynt canran yn is na鈥檙 gyfradd ddiweithdra ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, sy鈥檔 4.9 y cant
  • Mae anweithgarwch economaidd i lawr 14,000 dros y chwarter i 449,000 ac mae鈥檙 gyfradd wedi gostwng 0.7 pwynt canran i 23.6. Yn ystod y flwyddyn, mae鈥檙 lefel wedi gostwng 2,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.1 pwynt canran
  • Mae鈥檙 nifer sy鈥檔 hawlio wedi cynyddu 300 (0.7 y cant) rhwng mis Gorffennaf a mis Awst, ond roedd wedi syrthio 2,100 yn ystod y flwyddyn. Mae鈥檙 gyfradd bellach yn 2.9 y cant.

Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 data ardderchog hwn ar swyddi yn brawf o allu economi Cymru i greu swyddi a lleihau diweithdra. Mae mwy o bobl mewn gwaith nag erioed o鈥檙 blaen ac mae鈥檙 gyfradd ddiweithdra yn is nag erioed wrth i farchnad swyddi Cymru brysur gau鈥檙 bwlch ar weddill y DU.

Y dangosyddion yw bod diwygio lles wedi chwarae ei ran gyda rhai o鈥檙 cwympiadau mwyaf mewn diweithdra i鈥檞 gweld mewn llefydd fel Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chaerffili. Mae dychwelyd i鈥檙 gwaith yn awr yn gwneud mwy o synnwyr ariannol nag erioed, ac rydym yn dirwyn i ben y diwylliant lle ceid cartrefi heb ddim s么n am riant mewn gwaith sydd wedi difetha rhannau o鈥檔 gwlad.

Yr hyn y mae ffigyrau heddiw yn ei adlewyrchu yw economi hyderus sy鈥檔 carlamu ymlaen gan elwa ar y penderfyniadau anodd a wnaeth y Llywodraeth flaenorol. Tra bydd Brexit yn ddi-os yn dod 芒 heriau yn ei sgil, mae鈥檙 economi yng Nghymru mewn cyflwr gwych i wynebu鈥檙 cyfnod o drawsnewid sydd o鈥檔 blaenau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Medi 2016 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.