Datganiad i'r wasg

Gall bron i 300,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru bellach gael band eang cyflym iawn

Wrth i'r ffigurau diweddaraf ymddangos, y cam nesaf fydd taclo'r 5% o ardaloedd olaf anoddaf eu cyrraedd yn y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Fibre optic image
  • Mae 4 allan o bob 5 eiddo yn y DU yn gallu cael band eang cyflym iawn erbyn hyn
  • Mae wedi cyrraedd 299,876 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn unig
  • Datgelu鈥檙 ffigurau diweddaraf wrth ddechrau ar y cam nesaf o fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 pump y cant olaf o鈥檙 ardaloedd anoddaf eu cyrraedd yn y DU

Mae rhaglen genedlaethol y Llywodraeth i ehangu鈥檙 ddarpariaeth o fand eang cyflym iawn wedi cyrraedd mwy na dwy filiwn o gartrefi a busnesau erbyn hyn, yn 么l ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 9 Chwefror). O blith y rhain, mae mwy na 299,876 o eiddo yng Nghymru yn mwynhau mynediad i fand eang cyflymach erbyn hyn.

Mae鈥檙 ehangu鈥檔 cynnig mynediad cyflym iawn 鈥� cyflymder rhyngrwyd sy鈥檔 fwy na 24 Mbps 鈥� i eiddo heb fod yn rhan o rwydweithiau masnachol presennol ac mae ar y targed i ddarparu mynediad cyflym iawn i 95 y cant o鈥檙 DU erbyn 2017. Mae鈥檙 DU eisoes yn arwain 鈥減um gwlad fawr鈥� yr Undeb Ewropeaidd o ran mynediad cyflym iawn a鈥檙 nifer sy鈥檔 gwneud defnydd o鈥檙 ddarpariaeth a bydd y rhaglen hon yn sicrhau ei bod yn parhau ar y blaen.

Mae鈥檙 Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd cyswllt rhyngrwyd cyflym i unigolion a busnesau fel ei gilydd, ac mae ei buddsoddiad o 拢1.7 biliwn yn yr ehangu鈥檔 rhan allweddol o gynllun economaidd tymor hir y Llywodraeth. Mae gan oddeutu 80 y cant o鈥檙 DU fynediad i gyflymder cyflym iawn eisoes, ac mae鈥檙 ehangu鈥檔 cyrraedd 40,000 o gartrefi a busnesau ychwanegol bob wythnos.

Dywedodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Diwylliant:

Heddiw mae dwy filiwn yn rhagor o gartrefi a busnesau yn y DU yn gallu gwneud defnydd o fand eang cyflym iawn o gymharu 芒 dwy flynedd yn 么l, o ganlyniad i鈥檙 prosiect uchelgeisiol yma. Mae hwn yn ganlyniad gwych ac mae eisoes yn gwneud byd o wahaniaeth i filiynau o bobl. Rydyn ni am i bawb yn y DU allu mwynhau manteision band eang cyflym iawn a dyna pam rydyn ni wedi dechrau gweithio ar gyrraedd y pump y cant olaf o gymunedau nad ydyn nhw鈥檔 rhan o鈥檙 cynlluniau presennol.

Mae band eang cyflymach yn gatalydd ar gyfer twf economaidd. Amcangyfrifir y bydd rhaglen ehangu鈥檙 Llywodraeth yn arwain at greu 56,000 yn rhagor o swyddi yn y DU erbyn 2024. Bydd band eang cyflym iawn yn rhan greiddiol o sbarduno elw i fusnesau lleol, a bydd yr economi wledig yn elwa o tua 拢9 miliwn bob dydd oherwydd y gwaith sy鈥檔 cael ei wneud nawr.

Mae partneriaid y prosiect, BT Openreach, yn ehangu鈥檙 cebl ffeibr optig yn awr i sicrhau鈥檙 cyflymder gorau posib, gyda chynnydd gwych hyd yma ym mhob ardal yng Nghymru.

Dywedodd Joe Garner, Prif Weithredwr Openreach, busnes rhwydwaith lleol BT:

Rydyn ni鈥檔 falch o fod yn darparu鈥檙 llwyddiant gwych yma ym Mhrydain mewn partneriaeth 芒鈥檙 Llywodraeth ac rydyn ni wedi ymrwymo hyd at 拢1 biliwn o arian ein cyfranddalwyr i鈥檙 prosiectau. Mae鈥檙 rhaglen ar amser yn gyffredinol ac mae ein staff yn parhau i weithio鈥檔 galed ar gysylltu cartrefi a busnesau yn yr ardaloedd anodd eu cyrraedd yn y DU.

Os byddwn ni鈥檔 gallu cwblhau鈥檙 gwaith yn rhatach na鈥檙 gyllideb, bydd posib ailfuddsoddi鈥檙 arbedion i fynd 芒鈥檙 ddarpariaeth ymhellach fyth. Hefyd, bydd arian yn cael ei ryddhau os bydd mwy na鈥檙 disgwyl yn penderfynu gwneud defnydd o鈥檙 ddarpariaeth, ac mae hynny eto o werth mawr i鈥檙 trethdalwr.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae cynllun economaidd tymor hir y Llywodraeth yn ymwneud 芒 chefnogi busnesau a chreu鈥檙 amodau priodol er mwyn iddynt ehangu.

Mae band eang cyflym iawn yn helpu busnesau i weithio鈥檔 effeithiol. Does dim rhyfedd bod ardal de Cymru wedi鈥檌 chyhoeddi鈥檔 ddiweddar fel un o鈥檙 clystyrau technolegol sy鈥檔 tyfu gyflymaf yn y DU.

Mae cyrraedd y garreg filltir yma鈥檔 dangos y trawsnewid enfawr sydd wedi digwydd yn ein tirlun digidol a pha mor benderfynol ydyn ni o gael cymaint o bobl 芒 phosib ar-lein.

Mae rhaglen ehangu鈥檙 Llywodraeth yn dangos gwerth am arian clir ac mae llawer o鈥檙 gwaith presennol ar y blaen i鈥檙 amserlen eisoes. Mae鈥檙 ffocws erbyn hyn yn gadarn ar yr ardaloedd anoddaf eu cyrraedd sy鈥檔 cynnwys y 鈥減ump y cant olaf鈥� ac mae鈥檙 Llywodraeth eisoes wedi dechrau gweithio ar ymestyn y band cyflym i gyrraedd y cymunedau hyn.

Cadarnhaodd y Llywodraeth heddiw y bydd saith cynllun peilot sy鈥檔 ceisio helpu i gyrraedd yr ardaloedd hyn yn cael eu gweithredu yn awr, ar 么l cwblhau cam cyntaf y cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Bydd y saith cynllun yn gwneud y canlynol:

  • Creu tystiolaeth o gost cyflwyno darpariaeth gyflym iawn yn yr ardaloedd anoddaf eu cyrraedd, er mwyn deall lefel y buddsoddiad fydd ei angen yn well
  • Meithrin gallu a chapasiti yn y farchnad, ac ehangu gwybodaeth y farchnad am ofynion Cymorth y Wladwriaeth, drwy rannu canfyddiadau鈥檙 cynllun peilot mor eang ag y bo modd
  • Creu tystiolaeth o lefelau disgwyliedig o ddefnydd yn yr ardaloedd anoddaf eu cyrraedd, a sut gellir cymell hynny

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Chwefror 2015