Stori newyddion

Yr Arglwydd Ganghellor yn croesawu Cwnsleriaid newydd y Brenin

Mae Ei Fawrhydi Y Brenin wedi cymeradwyo penodi 95 o fargyfreithwyr a chyfreithwyr yn Gwnsleriaid newydd y Brenin (CB) yng Nghymru a Lloegr.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Mae Ei Fawrhydi hefyd wedi cymeradwyo penodi naw ffigwr cyfreithiol yn Gwnsleriaid y Brenin Er Anrhydedd.

Dyfernir teitl CB i鈥檙 rhai sydd wedi dangos sgiliau ac arbenigedd neilltuol fel dadleuwyr yn y llysoedd.

Dyfernir CB Er Anrhydedd i鈥檙 rhai sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i gyfraith Cymru a Lloegr, heb ymarfer yn y llysoedd.

Bydd yr Arglwydd Ganghellor yn llywyddu鈥檙 seremoni benodi yn Neuadd Westminster ar y 27ain o Fawrth 2023, lle bydd yn rhoi鈥檙 teitlau yn ffurfiol.

Bywgraffiadau Cwnsleriaid y Brenin er anrhydedd

  • Mae John Battle yn ffigwr blaenllaw ac ymroddedig y tu 么l i fater o ffilmio achosion llys, mae鈥檔 arwain y gr诺p diwydiant darlledu (BBC, ITN, Sky, PA), ac fe鈥檌 cydnabyddir am ei ymrwymiad i鈥檞 waith helaeth rhwng y cyfryngau, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a鈥檙 uwch farnwriaeth.

  • Mae Lionel Bently yn athro cyfraith eiddo deallusol a berchir yn gyffredinol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Cafodd ei enwebu am ei gyhoeddiadau sydd ymysg y testunau mwyaf dylanwadol mewn cyfraith eiddo deallusol ac am chwarae rhan hanfodol wrth ddylanwadu ar gyfraith eiddo deallusol yn yr awdurdodaeth hon a thu hwnt.

  • Mae Richard Edwin Ekins yn academydd cyfreithiol ac yn Athro鈥檙 Gyfraith a Llywodraeth Gyfansoddiadol ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae鈥檔 awdur nifer o lyfrau ac erthyglau tra dylanwadol. Ers 2015, mae wedi arwain Prosiect P诺er Barnwrol Policy Exchange ac mae wedi gwneud cyfraniad mawr i鈥檙 drafodaeth gyhoeddus, a thrafodaeth seneddol, am r么l gyfansoddiadol y llysoedd.

  • Mae Rosemary Hunter yn Athro鈥檙 Gyfraith ac Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol ac yn Bennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Caint. Mae鈥檔 ysgolhaig blaenllaw ym maes y system Gyfiawnder Teuluol ac mae鈥檔 eistedd fel Aelod Academaidd y Cyngor Cyfiawnder Teuluol. Mae ei gwaith ym maes pwysig cam-drin domestig wedi cael effaith uniongyrchol ar ddatblygiadau deddfwriaethol.

  • Mae Dr Ann Olivarius yn gyfreithwraig Brydeinig Americanaidd a gydnabyddir yn eang am ei r么l flaenllaw ym meysydd hawliau menywod, aflonyddu rhywiol a cham-drin rhywiol. Mae hi wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn cam-drin rhywiol drwy ddelweddau a thorri preifatrwydd. Chwaraeodd ran allweddol wrth lob茂o鈥檙 Senedd i basio deddfau yn erbyn datgelu delweddau preifat nad ydynt yn gydsyniol

  • Mae gan Richard Susskind OBE FRSE gadeiriau ym Mhrifysgol Rhydychen, Coleg Gresham a Phrifysgol Strathclyde. Mae wedi gweithio ym maes technoleg a鈥檙 gyfraith ers 40 mlynedd ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau yn y maes hwnnw. Mae wedi cael ei gydnabod am ei waith yn hybu technoleg ac arloesed mewn gwasanaethau cyfreithiol a llysoedd ledled Cymru a Lloegr.

  • Roedd James Wakefield yn allweddol yn sefydlu Cyngor Ysbytai鈥檙 Frawdlys fel elusen a sefydlu Coleg Dadleuwriaeth Ysbytai鈥檙 Frawdlys. Cyflwynodd y Coleg Gwrs Bar dwy ran newydd. Helpodd hefyd i ysgrifennu canllawiau sancsiynau newydd i鈥檙 Bar. Mae鈥檙 rhain yn dangos ei ymrwymiad i hyrwyddo mynediad i鈥檙 proffesiwn ac annog cadw鈥檙 rhai sy鈥檔 hanu o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

  • Mae Julian Vincent Roberts yn Athro Emeritws Troseddeg ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol yr Academi Ddedfrydu. Fe鈥檌 cydnabyddir fel awdurdod academaidd blaenllaw yng Nghymru a Lloegr ar theori dedfrydu, polisi, ac ymarfer; mae ei waith wedi gwneud cyfraniad mawr at ddadansoddi a datblygu dedfrydu ledled y byd.

  • Mae Syr Michael Wood wedi cyfrannu llawer at ddatblygu a chyfundrefnu cyfraith ryngwladol. Mae wedi gwasanaethu鈥檔 hir fel aelod o Gomisiwn Cyfraith Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig (ILC). Fel aelod amlwg o鈥檙 ILC mae wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy a pharhaol i gyfraith ryngwladol fel y caiff ei dysgu a鈥檌 chymhwyso yn y DU a thu hwnt.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Rhagfyr 2022