Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad Mawr yng Ngogledd Cymru yn creu 140 o swyddi newydd

Bydd tua 140 o swyddi’n cael eu creu yng Ngogledd Cymru wrth i Knauf Insulation ddatgelu cynlluniau i fuddsoddi £170 miliwn mewn cyfleuster gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf

Welsh Secretary Jo Stevens, Cabinet Secretary for Transport and North Wales Ken Skates and Knauf Insulation

  • Mae’r cwmni gweithgynhyrchu rhyngwladol Knauf Insulation yn bwriadu buddsoddi £170 miliwn mewn cyfleuster newydd yn Shotton, gan greu 140 o swyddi newydd
  • Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn croesawu’r buddsoddiad mewn cyfleuster gweithgynhyrchu newydd
  • Daw’r cyhoeddiad wrth i’r DU a’r UE gynnal uwchgynhadledd i drafod cyfleoedd i hybu twf economaidd yn y dyfodol

Bydd tua 140 o swyddi’n cael eu creu yng Ngogledd Cymru wrth i Knauf Insulation ddatgelu cynlluniau i fuddsoddi £170 miliwn mewn cyfleuster gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf yn Shotton.

Bydd y datblygiad nodedig hwn yn cynhyrchu dros 100,000 o dunelli o ddeunydd inswleiddio anllosgadwy wedi’i wneud o wlân mwynol bob blwyddyn, ac yn creu tua 140 o swyddi uniongyrchol, a mwy mewn cadwyni cyflenwi lleol.

Mae’r cyhoeddiad yn cyd-daro ag Uwchgynhadledd y DU a’r UE sy’n cael ei chynnal heddiw (dydd Llun 19 Mai), ac mae hyn yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i feithrin twf economaidd drwy ei Chynllun ar gyfer Newid ac i ddenu mewnfuddsoddiad er mwyn cryfhau’r economi. 

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r buddsoddiad hwn o £170 miliwn gan Knauf Insulation yn newyddion gwych i Ogledd Cymru ac i genhadaeth Llywodraeth y DU i sbarduno twf economaidd.

Dyma bleidlais o hyder yn economi Cymru ac yng nghynllun ein llywodraeth i wneud Prydain yn gyrchfan y bydd pobl yn dewis troi ati i fuddsoddi mewn diwydiant.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Mae hyn yn newyddion gwych i Ogledd Cymru. Bydd y cynlluniau’n fuddsoddiad mawr yn yr ardal ac maent yn brawf o’r sgiliau a’r cyfleusterau sydd gennym ni yma.

Dim ond dechrau’r daith yw’r cyhoeddiad cadarnhaol hwn, a byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth wrth i’r gwaith o gyflawni’r prosiectau fynd rhagddo.

Dywedodd y Farwnes Gustafsson CBE, y Gweinidog dros Fuddsoddi:

Mae’r DU ar agor i fusnes, ac mae hon yn bleidlais arall o hyder yng Ngogledd Cymru a’i sector gweithgynhyrchu uwch ffyniannus, a fydd yn rhoi hwb i swyddi a ffyniant ar draws y rhanbarth.

Bydd ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern � a fydd yn blaenoriaethu gweithgynhyrchu uwch fel un o wyth sector allweddol yn y DU, yn ein helpu i fynd ymhellach drwy ddenu hyd yn oed mwy o fuddsoddiad, creu cyfleoedd newydd ar hyd a lled y wlad, a gwireddu ein Cynllun ar gyfer Newid.

Dywedodd Neil Hargreaves, Rheolwr Gyfarwyddwr Knauf Insulation Gogledd Ewrop:

Mae gan y Knauf Group hanes balch o weithgynhyrchu yng Nghymru ac mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynaliadwyedd, a’r weledigaeth ddiwydiannol ar gyfer Gogledd Cymru a Glannau Dyfrdwy. 

Gan ddefnyddio’r dechnoleg Ffwrnais Arc Suddedig gyntaf o’i math yn y DU, bydd y ffatri newydd yn cynhyrchu deunydd inswleiddio wedi’i wneud o wlân mwynol sy’n ailgylchadwy, yn garbon isel ac yn anllosgadwy i gefnogi’r angen am adeiladau mwy diogel, mwy ynni effeithlon a chynaliadwy.

Mae ymdrechion ar y cyd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr lleol wedi paratoi’r ffordd i Knauf Insulation fod yn hyderus yng Nghymru fel cyrchfan ar gyfer prosiectau trawsnewidiol.

Gyda’i gilydd, mae Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, a Bargen Twf Gogledd Cymru � a gefnogir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru � o blaid penderfyniad Knauf Insulation i leoli ail ffatri yn yr ardal.

Fel arweinwyr yn maes cynhyrchu deunyddiau adeiladu cynaliadwy, mae ehangiad Knauf Insulation yn ategu’r clwstwr gweithgynhyrchu uwch sy’n tyfu yng Ngogledd Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Mai 2025