Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn dyfarnu £208 miliwn i brosiectau Ffyniant Bro yng Nghymru

Cyfanswm o 11 prosiect yn derbyn grantiau yn ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro nodedig

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government
  • Cyfanswm o 11 prosiect yn derbyn grantiau yn ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro nodedig
  • Mae’r prosiectau’n cynnwys Crossrail Caerdydd, campws peirianneg ym Mlaenau Gwent, adfer Pafiliwn y Grand Porthcawl, a llwybrau beicio newydd drwy Ddyffryn Conwy
  • Bydd buddsoddi mewn ardaloedd sydd wedi’u hesgeuluso’n hanesyddol yn creu swyddi ac yn tyfu’r economi

Mae Crossrail Caerdydd, campws peirianneg newydd ym Mlaenau Gwent, a llwybrau beicio newydd drwy Ddyffryn Conwy, yn rhai o’r prosiectau lleol trawsnewidiol ledled Cymru sydd wedi cael cyfran o £2.1 biliwn o Gronfa Ffyniant Bro nodedig Llywodraeth y DU.

Bydd buddsoddiad mawr gan Lywodraeth y DU o fudd i bobl ledled Cymru drwy ledaenu cyfleoedd a dod â bywyd newydd i ardaloedd sydd wedi cael eu hesgeuluso’n hanesyddol.

Dyrannwyd mwy na £208 miliwn i gyfanswm o 11 o brosiectau yng Nghymru yn rownd dau Cronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiectau’n creu swyddi, yn sbarduno twf economaidd, yn helpu i adfer balchder pobl yn y mannau lle maent yn byw ac yn lledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal.

Bydd hyn yn hybu blaenoriaeth y Prif Weinidog i dyfu’r economi drwy godi’r gwastad a darparu’r sylfeini ar gyfer adeiladu dyfodol gwell mewn cymunedau ledled y DU. Drwy gydweithio, mae’r DU mewn sefyllfa well i fynd i’r afael gyda’n gilydd â’r heriau unigol sy’n wynebu pob rhanbarth a chenedl ledled y wlad.

Mae’r grantiau’n cynnwys £50 miliwn ar gyfer Crossrail Caerdydd, sy’n gyfartal â’r swm uchaf a ddyfarnwyd i brosiect yn y DU. Mae £9 miliwn hefyd yn mynd i gampws peirianneg newydd i 600 o fyfyrwyr ym Mlaenau Gwent ac £18.6 miliwn ar gyfer llwybr beicio newydd rhwng Cyffordd Llandudno a Betws-y-coed drwy Ddyffryn Conwy.

Bydd bron i £18 miliwn yn helpu i adnewyddu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, un o’r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Ne Cymru, sydd wedi dirywio ar ôl blynyddoedd o waith adnewyddu tameidiog.

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak:

Drwy fuddsoddiad mwy mewn ardaloedd lleol, gallwn dyfu’r economi, creu swyddi da a lledaenu cyfleoedd ym mhobman.

Dyna pam rydyn ni’n cefnogi nifer o brosiectau gyda chyllid trawsnewidiol newydd i godi’r gwastad mewn cymunedau lleol yng Nghymru.

“Drwy gyrraedd hyd yn oed mwy o rannau o’r wlad nag o’r blaen, byddwn yn creu dyfodol o optimistiaeth a balchder ym mywydau pobl a’r lleoedd maen nhw’n byw ynddynt.�

Dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd Ffyniant Bro:

Rydyn ni’n rhoi golau gwyrdd i dros gant o brosiectau trawsnewidiol ym mhob cwr o’r DU a fydd yn adfywio cymunedau sydd wedi cael eu hanwybyddu’n hanesyddol ond sy’n llawn potensial.�

Bydd y cyllid newydd hwn yn creu swyddi, yn sbarduno twf economaidd ac yn helpu i adfer balchder lleol. Rydyn ni’n cyflawni blaenoriaethau’r bobl, yn codi’r gwastad ledled y DU i sicrhau y gallwch chi fynd cyn belled ag y bydd eich doniau’n mynd â chi, dim ots o ble rydych chi’n dod.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn mewn prosiectau gwirioneddol arwyddocaol ledled Cymru. Rwy’n falch iawn o weld cynifer o geisiadau llwyddiannus o bob cwr o’r wlad am gynlluniau a fydd yn cael effaith am genedlaethau i ddod.

Bydd y cyllid hwn yn adfywio canol trefi ac adeiladau hanesyddol, yn creu llwybrau beicio a cherdded newydd drwy rannau o’n cefn gwlad prydferthaf, yn gwella cyfleusterau i ymwelwyr, yn darparu atebion trafnidiaeth i Gaerdydd ac yn cyfrannu at y cyfleoedd iechyd a swyddi i bobl yn yr ardaloedd dan sylw yn y dyfodol.

Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddilyn hynt y prosiectau hyn wrth iddynt ein helpu i gyflawni ein huchelgais o godi’r gwastad yn y DU a thyfu economi Cymru.

Dyma’r prosiectau y dyfarnwyd grantiau Cronfa Ffyniant Bro iddynt yng Nghymru heddiw:

  • £50 miliwn ar gyfer Crossrail Caerdydd. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell newydd rhwng Bae Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog, gan ei gwneud yn haws i filoedd o bobl deithio rhwng y gorsafoedd hyn bob dydd.
  • Bydd llwybr beicio diogel ac uniongyrchol yn cael ei greu rhwng Cyffordd Llandudno a Betws-y-coed drwy Ddyffryn Conwy gyda grant o £18.6 miliwn. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys mesurau i liniaru yn erbyn llifogydd.
  • Bydd £17.8 miliwn i adfer ystâd hanesyddol yng Nghwm Nedd ac i adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd.
  • Mae £17 miliwn ar gael i adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd i ddod â phobl yn nes at ei gilydd yng Nghaergybi a galluogi ymwelwyr a phobl leol i grwydro safleoedd trawiadol Eglwys Sant Cybi a’r gaer Rufeinig.
  • £18 miliwn i drawsnewid Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, un o’r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Ne Cymru, sydd wedi dirywio ar ôl blynyddoedd o waith adnewyddu tameidiog.
  • Ym Mlaenau Gwent, bydd campws peirianneg newydd ar gyfer 600 o bobl ifanc yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio cyllid o £9 miliwn. Bydd yn cynnig rhaglen helaeth o brentisiaethau a lleoliadau mewn diwydiannau yn yr ardal i’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.
  • Bydd £20 miliwn yn adfer ac yn adfywio tri safle treftadaeth diwydiannol yng Nghwm Tawe Isaf. Mae hyn yn cynnwys Gwaith Copr y Morfa a fydd yn creu siopau, bwytai a marchnadoedd newydd, a gwaith uwchraddio sylweddol i Amgueddfa Abertawe.
  • Bydd prosiect gwerth £7.6 miliwn Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl yn Nhorfaen yn trawsnewid adeiladau sydd wedi adfeilio’n ganolfan ddiwylliannol ffyniannus gyda bwyty newydd i roi hwb i’r economi gyda’r nos.
  • Adeiladu canolfan hamdden o’r radd flaenaf yng Nghaerffili gydag £20 miliwn, a fydd yn cynnwys campfa a phwll nofio newydd.
  • Yng Ngwynedd, bydd £18.8 miliwn yn uwchraddio llwybrau cerdded a beicio ar gyfer Amgueddfa Lechi Cymru a chanolfan gelfyddydau Neuadd Ogwen.
  • Bydd Sir Ddinbych yn cael £11 miliwn i adfer yr henebion hanesyddol yn Rhuthun, gan gynnwys Eglwys Sant Pedr a sgwâr y dref.

Mae’r buddsoddiad sylweddol a gyhoeddwyd heddiw yn dilyn y dyraniad o £1.7 biliwn i 105 o brosiectau yn rownd un y Gronfa Ffyniant Bro yn 2021� gan olygu bod cyfanswm o £3.8 miliwn wedi’i ddyrannu o’r gronfa hyd yma.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cadarnhau y bydd rownd arall o Gronfa Ffyniant Bro, a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i godi’r gwastad mewn lleoedd ledled y DU.

Diwedd

Heddiw, bydd Llywodraeth y DU hefyd yn lansio map rhyngweithiol ar-lein er mwyn i bobl allu gweld pa brosiectau sy’n derbyn buddsoddiad o Gronfa Ffyniant Bro yn eu hardal. Bydd ar gael yn

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Ionawr 2023 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.