Beth am ddilyn esiampl prifysgolion uchelgeisiol Cymru drwy fod yn rhyngwladol yn y byd ar 么l Brexit, meddai Alun Cairns
Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn annog arweinwyr o bob sector yng Nghymru i ddilyn esiampl prifysgolion Cymru - drwy geisio am gyfleoedd yn Ewrop a thu hwnt.

Alun Cairns speaking at the Cardiff Met Annual Lecture / Alun Cairns yn siarad yn Narlith Blynyddol Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Ddydd Iau 10 Tachwedd, heriodd Alun Cairns y sefydliad gwleidyddol yng Nghymru i ddilyn esiampl y sector addysg uwch ar 么l Brexit yn ei araith fawr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Anogodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru arweinwyr o bob sector ledled Cymru i ddilyn esiampl prifysgolion Cymru 鈥� drwy chwilio am gyfleoedd yn Ewrop a thu hwnt.
Gwnaeth Mr Cairns y datganiad hwn yn Narlith Flynyddol y Fforwm yr oedd yn ei thraddodi yn dilyn gwahoddiad gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd:
Mae鈥檔 rhaid i bawb fabwysiadu agwedd gadarnhaol er mwyn manteisio i鈥檙 eithaf ar y newid a ddaw yn sgil Brexit.
Does dim enghraifft well o brifysgol yn estyn allan i鈥檙 byd na Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae鈥檔 amser ystyried Cymru yn y byd ehangach ymhen 5 i 10 mlynedd.
Ni fu erioed amser pwysicach i fabwysiadu agwedd sefydlog, eangfrydig a rhyngwladol yn y Llywodraeth, mewn busnesau ac mewn prifysgolion yn y DU.
Ychwanegodd Mr Cairns:
Mae Bil Cymru, sy鈥檔 mynd drwy鈥檙 Senedd ar hyn o bryd, yn gyfle i symud trafodaethau yn eu blaenau a thrafod y materion sydd o bwys i bobl ar lawr gwlad yn hytrach na chynnal dadleuon cyfansoddiadol cymhleth.
Mae gan Gymru lais cryf yn y byd ehangach erioed, o ganlyniad i ddiwylliant, diwydiant ac arloesedd, cyfraniad hanesyddol ein gwlad at y byd, a鈥檌 chysylltiadau 芒 chymunedau ar wasgar sy鈥檔 parhau hyd heddiw. Rydw i eisiau datblygu a chryfhau鈥檙 cyswllt hanfodol hwn yn fyd-eang.
Yn y byd newydd hwn ar 么l Brexit, mae gennym ni gyfleoedd anferthol, ond mae cyfrifoldeb arnom ni hefyd - Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a thrigolion Cymru - i weithio gyda鈥檔 gilydd er mwyn sicrhau dyfodol sy鈥檔 gweithio i bawb.