Stori newyddion

Adroddiad interim ar y grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain

Mae adroddiad newydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhoi diweddariad interim ar y cynnydd a wnaed gan y Grant LSLIP.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Ym mis Ebrill 2020, lansiodd y Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder y Grant LSLIP, sef rhaglen ddwy flynedd sy’n ariannu ystod o wasanaethau ymyrryd cynharach ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain. Mae LSLIP yn ariannu 11 o brosiectau grant ledled Cymru a Lloegr sy’n darparu cyngor ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain ar wahanol gamau o’u problem o fewn sawl maes cyfraith sifil a theuluol. Mae gweithio mewn partneriaeth ac ymyriadau cynharach wrth wraidd yr holl weithgareddau hyn, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i gleientiaid.

Er mwyn datblygu sylfaen dystiolaeth gyfunol o’r manteision y mae’r rhaglen yn eu darparu, mae pob derbynnydd grant wedi casglu ac adrodd ar amrywiaeth o ddata ansoddol a meintiol ynghylch y cyngor y maent wedi’i roi, y cleientiaid a gafodd y cyngor hwn a’r effaith y mae’r cyngor hwn wedi’i chael ar wella canlyniadau cleientiaid.

²Ñ²¹±ð’r adroddiad interim hwn yn dwyn ynghyd y data a’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, er mwyn adrodd ar gynnydd tuag at amcanion y grant. ²Ñ²¹±ð’r canfyddiadau hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad cychwynnol ac felly nid ydynt o reidrwydd yn ddangosydd cywir o berfformiad ar hyn o bryd nac yn adlewyrchu’r safbwyntiau a gyrhaeddir yn yr adroddiad terfynol.

Prif ganfyddiadau’r adroddiad yw:

  • Mae derbynwyr y grant LSLIP wedi darparu ystod o gyngor cyfreithiol, cefnogaeth ymarferol a gwybodaeth am weithdrefnau i filoedd o bobl ledled Cymru a Lloegr sydd â phroblemau sifil a theuluol. ²Ñ²¹±ð’r grantiau wedi galluogi oddeutu 10,000 o bobl i gael cymorth personol un-i-un ar eu problemau sifil a theuluol, a niferoedd sylweddol uwch i gael gafael ar wybodaeth ac arweiniad cyfreithiol cyhoeddus.
  • ²Ñ²¹±ð’r rhan fwyaf o’r cyngor a ddarparwyd gan y derbynwyr grant lleol a rhanbarthol wedi bod yn gyngor cyffredinol cychwynnol (68% o’r cyngor) ar broblemau teuluol, cyflogaeth a thai (bron i 75% o’r problemau). Fodd bynnag, darparwyd llawer iawn o waith achos a chyngor cyn-llys.
  • Yn fras, mae’n ymddangos bod y rhai sy’n derbyn grant yn lleol ac yn rhanbarthol yn cyrraedd carfan debyg o ddefnyddwyr i wasanaethau cynghori eraill. ²Ñ²¹±ð’r rhan fwyaf o gleientiaid yn fenywod (62%), rhwng 25 a 55 (65%), a gwyn (91%). Mae gan o leiaf chwarter y cleientiaid anabledd, ond mae tystiolaeth i awgrymu bod hyn yn amcangyfrif rhy isel a bod gan nifer fawr o gleientiaid iechyd corfforol a meddyliol gwael ochr yn ochr â dangosyddion eraill o fod yn agored i niwed.
  • Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol i LSLIP a’r gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain. Mae ffurfioli llwybrau atgyfeirio rhwng gwasanaethau a rhannu adnoddau arbenigol wedi galluogi sefydliadau i ehangu cyngor ar draws ardaloedd daearyddol ehangach a meysydd cyfreithiol, er mwyn darparu gwasanaeth mwy cyfannol sy’n gallu mynd i’r afael â holl broblemau’r cleient.
  • Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod y cyngor a’r gefnogaeth a ddarperir yn gwella canlyniadau’r cleientiaid, gan gynnwys cynyddu dealltwriaeth cleientiaid o sut i ddatrys eu problem a chynyddu hyder cleientiaid i weithredu’n brydlon. Mae hyn yn helpu i ddatrys problemau yn gynharach, cyn iddynt gyrraedd y llys neu’r tribiwnlys.

Bydd rhagor o ddata’n cael ei gasglu drwy gydol oes LSLIP ac adroddir ar y tueddiadau hyn yn y gwerthusiad terfynol.

Nodiadau:

Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y Cynllun Gweithredu Cymorth Cyfreithiol a oedd yn amlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i weledigaeth newydd ar gyfer cymorth cyfreithiol, ar sail ymyriadau cynharach. Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, roedd y Cynllun Gweithredu Cymorth Cyfreithiol yn cynnwys sawl ymrwymiad i dreialu a gwerthuso gwahanol fathau o gymorth cyfreithiol cynnar, er mwyn deall yn well pa ymyriadau sy’n gweithio orau, pryd, ac i bwy. Ymysg yr ymrwymiadau hyn yr oedd yr addewid i gynyddu cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y Strategaeth Cymorth i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain o £1.45 miliwn y flwyddyn i £3 miliwn am ddwy flynedd.

Darperir y cyllid ychwanegol hwn, sef y grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain, gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn partneriaeth â’r Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder. ²Ñ²¹±ð’r Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder yn fudiad elusennol sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn y maes cymorth cyfreithiol, a phrofiad sylweddol o reoli grantiau ar draws y sector cynghori.

Bu’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a’r Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder yn cydweithio’n agos i ddatblygu’r grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain (LSLIP), sy’n gwella’r cymorth cyfreithiol sydd ar gael ledled Cymru a Lloegr drwy ariannu gwasanaethau sydd wedi’u ehangu, uwchraddio neu rai newydd sy’n cefnogi’r ymyriadau cynharaf posibl ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Ionawr 2022