Datganiad i'r wasg

Darpar Lysgenhadon y DU yn ymweld â Chymru

Roedd Llysgenhadon newydd y DU wedi ymweld â Chymru wythnos yma i baratoi i ysgwyddo rolau arwain mewn llysgenadaethau ym mhedwar ban byd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Yng Nghaerdydd ac yn Abertawe roedd y 10 darpar Lysgennad wedi cwrdd ag arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid o Gymru i ddysgu mwy am flaenoriaethau busnesau Cymru sy’n gweithredu dramor. Roedd hefyd yn gyfle i drafod sut gall Llywodraeth y DU ddarparu rhagor o gefnogaeth a hyrwyddo busnesau’r DU o amgylch y byd, yn ogystal â denu buddsoddiad i Gymru yn y dyfodol.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan Lywodraeth y DU gannoedd o lysgenadaethau o amgylch y byd a phob un yn cynrychioli dinasyddion Cymru sy’n teithio dramor, yn helpu i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan mewnfuddsoddi ac yn chwilio am gyfleoedd i fusnesau Cymru allforio mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Rwyf wrth fy modd bod llysgenhadon Llywodraeth y DU wedi treulio amser yng Nghymru cyn dechrau ar eu swyddi dramor er mwyn deall anghenion penodol ein busnesau a chael yr wybodaeth sydd ei hangen er mwyn eu rhoi yn y sefyllfa gryfaf posibl i helpu i hyrwyddo Cymru i wledydd o amgylch y byd.

Tra’r oedd y grŵp yng Nghaerdydd fe aethant i ymweld â’r Senedd, blasu cynnyrch gorau Cymru mewn swper a oedd yn arddangos brandiau bwyd a diod Cymreig o’r ansawdd gorau. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys trafodaeth gydag ystod eang o arweinwyr o’r byd masnach, y byd twristiaeth a’r byd academaidd yng Nghymru; ym Mhrifysgol Abertawe lle cafodd y Llysgenhadon gyfle i glywed gan y tîm sy’n gweithio ar y prosiect ‘Bloodhound� ysbrydoledig sy’n ceisio gosod Record y Byd newydd o ran Cyflymder ar Dir sef 1,000 milltir yr awr, a hefyd gan ymchwilwyr arbenigol sy’n datblygu atebion ynni arloesol a fydd yn golygu creu adeiladau yn y DU ac yn India a fydd yn cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu pŵer eu hunain.

Dywedodd Kate Harrisson, sydd ar fin bod yn Llysgennad y DU i Lima:

Mae Llysgenadaethau Prydain dramor yn cynrychioli’r DU i gyd. Roedd ymweliad yr wythnos yma yn gyfle gwych i siarad wyneb yn wyneb ag amrywiaeth eang o randdeiliaid yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at helpu rhagor o fusnesau o Gymru i fanteisio ar y cyfleoedd cynyddol sydd ar gael mewn economïau sy’n datblygu fel Periw

»Ê¹ÚÌåÓýapp Ambassadors will take up their posts early next year in countries ranging from Algeria to New Zealand, where they will play a vital role in encouraging tourism and trade opportunities, helping increase exports and growth, and providing support to UK nationals abroad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Tachwedd 2017