Datganiad i'r wasg

Hanner miliwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn elwa o fand eang cyflym iawn

Alun Cairns: Nid oedd y Llywodraeth hon yn fodlon gadael Cymru ar 么l yn yr oes ddigidol

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Superfast broadband

  • Cynllun y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn yn cyrraedd dros 3.5 miliwn o gartrefi a busnesau yn y DU.
  • Mae bron i naw allan o bob deg o gartrefi yn y DU nawr yn gallu cael cyflymder rhyngrwyd cyflym iawn, i fyny o 0% yn 2009
  • Mae pob cartref a busnes yn y DU nawr yn sicr o gael cyflymder o 2Mbps o leiaf
  • Band eang wedi鈥檌 gyflwyno yn y DU yn gyflymach nag yn unrhyw le arall yn y byd.

Mae cynllun y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn wedi helpu dros 500,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn 么l ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (dydd Sul, 27 Rhagfyr 2015).

Diolch i waith sydd eisoes wedi鈥檌 wneud gan gangen darparu band eang y Llywodraeth (BDUK) a鈥檙 sector masnachol, mae bron i naw o bob deg o gartrefi a busnesau yn y DU bellach yn gallu cael mynediad at gyflymder band eang cyflym iawn. Nawr, disgwylir y bydd y ffigur yn mynd heibio 4 miliwn yn ystod gwanwyn 2016, ac mae鈥檙 DU wedi cyflwyno band eang yn gyflymach nag unrhyw le arall yn y byd.

Mae鈥檙 cynllun yn cynnig mynediad cyflym iawn 鈥� cyflymder rhyngrwyd sy鈥檔 fwy na 24 Mbps 鈥� i eiddo heb fod yn rhan o rwydweithiau masnachol presennol ac mae ar y trywydd iawn i ddarparu mynediad cyflym iawn i 95 y cant o鈥檙 DU erbyn mis Rhagfyr 2017.

Mae cyflymder band eang bron i 3000 o fusnesau yng Nghymru wedi cael hwb drwy gyfrwng y cynllun talebau cysylltu.

Dywedodd Ed Vaizey, Y Gweinidog dros yr Economi Ddigidol:

Mae ein cynllun o gyflwyno band eang cyflym iawn yn un o brosiectau seilwaith mwyaf sylweddol a mwyaf heriol y Llywodraeth yn ddiweddar. Mae鈥檔 rhaid i ni sicrhau bod y DU yn symud ymlaen gyda gofynion yr oes ddigidol, ac mae ein cynnydd sylweddol yn 2015 wedi sicrhau bod gan fusnesau yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i dyfu, a bod gan gartrefi鈥檙 dechnoleg i fod yn rhan o鈥檔 cymuned fyd-eang ar-lein.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Nid oedd y Llywodraeth hon yn fodlon gadael Cymru ar 么l yn yr oes ddigidol. Mae鈥檙 ffigurau hyn yn dangos cymaint rydym wedi datblygu wrth gyflyno band eang cyflymach, mwy dibynadwy i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

O鈥檔 hardaloedd gwledig i ganol ein dinasoedd, mae buddsoddiad y Llywodraeth hon yn helpu i sicrhau bod Cymru wrth galon y cyfnod digidol, yn cystadlu am swyddi a mewnfuddsoddiad.

Mae tirlun digidol y DU wedi parhau i weddnewid yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan fod nifer o gynlluniau鈥檙 Llywodraeth wedi rhoi hwb i gysylltiadau mewn pentrefi bach, pentrefi, trefi a dinasoedd ar hyd a lled y DU.

Yn ogystal 芒鈥檙 cymunedau hynny sy鈥檔 elwa o gyflymder band eang cyflym iawn yn sgil y cynllun:

  • Rhoddwyd talebau cysylltiad band eang i oddeutu 55,000 o fusnesau bach mewn 50 o ddinasoedd ar hyd a lled y DU. Mae busnesau sydd wedi elwa o鈥檙 cynllun yn dweud eu bod yn gweld cynnydd mewn elw o 拢1,300 y flwyddyn, ar gyfartaledd, ac mae swydd newydd yn cael ei chreu am bob pedwar cysylltiad newydd.

  • Mae鈥檙 Llywodraeth hefyd wedi lansio cynllun newydd gyda鈥檙 nod o roi cymorth ar unwaith i鈥檙 cymunedau hynny yn y lleoliadau anoddaf eu cyrraedd sy鈥檔 dioddef y cyflymder arafaf. Mae pob cartref a busnes yn y DU nawr yn sicr o gael cyflymder cysylltiad band eang o 2Mbs o leiaf ar 么l rhoi cynnig lloeren gyda chymhorthdal ar waith yn llwyddiannus.

  • Mae鈥檙 Llywodraeth nawr wedi dechrau gweithio ar gyflwyno Dyletswydd Gwasanaeth Cyffredinol ar gyfer band eang. Yr uchelgais yw rhoi鈥檙 hawl cyfreithiol i bobl ofyn am gysylltiad band eang 芒 chyflymder o 10 Mbps, lle bynnag maent yn byw.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Band eang yn y DU yw鈥檙 gorau o blith y pum economi fwyaf yn Ewrop o ran y ddarpariaeth band eang, y nifer sy鈥檔 ei dderbyn, yn ei ddefnyddio, ac o ran dewis a phris.
  2. Roedd y cynllun talebau cysylltiad band eang yn rhoi cyfle i fusnesau wneud cais am grantiau o hyd at 拢3,000 yr un tuag at y gost o osod band eang gwell a chyflymach.
  3. Am bob 拢1 y gwnaeth Llywodraeth y DU ei buddsoddi yn y cynllun talebau cysylltiad band eang, bydd dros 拢5 yn dod yn 么l i economi鈥檙 DU.
  4. Amcangyfrifir y bydd 300,000 o eiddo ar hyd a lled y DU yn gallu manteisio ar y cynllun lloeren newydd.
  5. Bydd Dyletswydd Gwasanaeth Cyffredinol yn 鈥榬hwyd ddiogelwch鈥� i sicrhau bod aelwydydd a busnesau yn gallu cael y cyflymder band eang sydd ei angen arnynt i wneud busnes ar-lein, cael mynediad at wasanaethau allweddol neu ffrydio teledu byw. Bydd modd uwchraddio hyn dros amser wrth i dechnoleg a鈥檙 galw ddatblygu. Bydd y llywodraeth yn ymgynghori ar hyn yn gynnar yn 2016.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Rhagfyr 2015