Stori newyddion

Pedwar o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ym Mhowys

Mae ymdrechion pedwar o bobl o bob rhan o Bowys wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin yn y sir.

Lord-Lieutenant of Powys Awards. Copyright: RFCA for Wales.

Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i ddau berson gan Mrs Tia Jones i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a鈥檜 hymroddiad i ddyletswydd yn y seremoni yng Ngwesty鈥檙 Elephant and Castle yn y Drenewydd ddydd Iau, 11 Ionawr.

Cafodd cyflawniadau dau gad茅t yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a鈥檜 dathlu yn ystod y digwyddiad a fynychwyd gan tua 50 o bobl.

Rhoddodd yr Uwch-ringyll Cwmni y Cadet Elliot Paul Tranter o Gadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys a鈥檙 Awyr-Lefftenant y Cadet Amira Vieyra o Gadetiaid Awyr RAF Adain Cymru Rhif 2 gyflwyniad i鈥檙 gynulleidfa am eu hamser yn y cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu r么l dros y 12 mis diwethaf fel cadetiaid yr Arglwydd Raglaw.

Mae r么l cad茅t yr Arglwydd Raglaw yn cynnwys mynychu nifer o ymrwymiadau swyddogol, gan gynnwys digwyddiadau鈥檙 Cofio, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau gydag Arglwydd Raglaw Powys, sy鈥檔 gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin.

Cafodd Elliot ac Amira, a fydd yn parhau yn eu swydd tan fis Medi, eu dewis ar gyfer r么l fawreddog cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar 么l cael eu henwebu gan arweinwyr y cadetiaid a鈥檙 Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru.

Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i ddau oedolyn 鈥� Mrs Pam Jones a鈥檙 Hyfforddwr Rhingyll Staff Ken Griffiths o Gadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys 鈥� Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw.

Ymunodd Ken, sy鈥檔 giper o Lanandras, 芒鈥檙 ACF fel gwirfoddolwr h欧n wyth mis cyn i Covid daro, ond wnaeth o ddim gadael i hynny ei atal rhag cwblhau ei holl hyfforddiant yn rhithiol felly roedd yn barod amdani unwaith y byddai鈥檙 hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ailgychwyn. Mae wedi bod yn 鈥榯our de force鈥� byth ers hynny ac mae bellach yng ngofal dwy fintai, gan gynnwys Mintai Llanfair-ym-muallt a Llandrindod lle mae lefelau presenoldeb a chyfranogi wedi codi i lefel ddigynsail.

Ymunodd Pam 芒鈥檙 ACF ddwy flynedd yn 么l fel gwirfoddolwr di-iwnifform er mwyn cynorthwyo ei g诺r y Capten Paul Jones a oedd newydd wirfoddoli i ailagor mintai Llanidloes. Heb unrhyw Wirfoddolwyr H欧n eraill o鈥檙 Cadetiaid ar gael - roedd protocolau diogelu yn golygu bod angen o leiaf ddau oedolyn drwy鈥檙 amser - gwirfoddolodd Pam ei gwasanaethau. Ers hynny mae鈥檙 fintai wedi mwynhau llwyddiant mawr gydag 20 cadet bellach yn gorymdeithio - sy鈥檔 dyst o ymroddiad a chefnogaeth Pam.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy鈥檔 ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol ac elusennau a thrwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr h欧n gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy鈥檔 rhoi o鈥檜 hamser hamdden yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei threfnu gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru - sefydliad sydd wedi cefnogi鈥檙 Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Ionawr 2024