Stori newyddion

Mae lefel cyflogaeth yn uwch nag erioed yng Nghymru wrth i farchnad swyddi鈥檙 wlad ffynnu

Mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn parhau i gynyddu fel y dangosir yn yr ystadegau diweddar.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Jobs Newspaper Advert

Mae cyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed wrth i鈥檙 ciplun diweddaraf o鈥檙 farchnad swyddi ar 么l refferendwm yr UE ddangos bod economi Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer gweddill y wlad.

Mae ystadegau鈥檙 Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn is nag yng ngweddill y DU ymysg nifer o ddangosyddion cadarnhaol.

Mae penawdau Ystadegau鈥檙 Farchnad Lafur fel a ganlyn:

  • Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru i fyny 5,000 dros y chwarter i 1.459 miliwn ac mae鈥檙 gyfradd i fyny 0.9 pwynt canran i 73.5 y cant. Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel 38,000 ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 2.5 pwynt canran. Mae鈥檙 lefel cyflogaeth a鈥檙 gyfradd gyflogaeth yn uwch nag erioed o鈥檙 blaen.
  • Mae lefel diweithdra wedi gostwng 5,000 dros y chwarter i 65,000 a鈥檙 gyfradd wedi gostwng 0.3 pwynt canran i 4.3 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 25,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.7 pwynt canran. Mae鈥檙 gyfradd yng Nghymru erbyn hyn 0.6 pwynt canran yn is na鈥檙 gyfradd ddiweithdra ar gyfer y DU drwyddi draw, sef 4.9 y cant.
  • Roedd y nifer sy鈥檔 hawlio鈥檙 budd-dal perthnasol 300 (0.8 y cant) yn llai rhwng mis Awst a mis Medi, a 2,100 (4.7 y cant) yn llai dros y flwyddyn. Mae鈥檙 gyfradd erbyn hyn yn 2.9 y cant. Ar gyfer y DU, cafwyd 700 o gynnydd yn y nifer sy鈥檔 hawlio鈥檙 budd-dal perthnasol (0.1 y cant) dros y chwarter ond gostyngodd 15,700 (2.0 pwynt canran) dros y flwyddyn ac mae yn awr yn 776,400. Mae cyfradd y DU yn 2.3 y cant.
  • Mae lefel anweithgarwch economaidd wedi gostwng 13,000 dros y chwarter i 441,000 a鈥檙 gyfradd wedi gostwng 0.7 pwynt canran i 23.1 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 22,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.1 pwynt canran. Ar gyfer y DU, cafwyd 65,000 o ostyngiad mewn anweithgarwch economaidd (0.2 y cant) dros y chwarter a 231,000 (0.6 pwynt canran) dros y flwyddyn ac mae yn awr yn 8.809 miliwn. Mae鈥檙 gyfradd anweithgarwch yn y DU erbyn hyn yn 21.5 y cant.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Y ffigurau hyn sy鈥檔 rhoi鈥檙 cipolwg diweddaraf i ni o鈥檙 farchnad swyddi yng Nghymru ar 么l pleidlais refferendwm yr UE, ac maent yn awgrymu bod economi Cymru yn dal i ffynnu.

Mae鈥檔 amlwg bod busnesau ac entrepreneuriaid Cymru yn gwneud yr hyn y maent yn ei wneud orau - creu swyddi a gwerthu鈥檜 harbenigedd ledled y byd.

Mae鈥檙 gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed, diolch i鈥檔 cwmn茂au gwych sydd wedi cael hwb gan effeithiau hirdymor y broses diwygio lles sy鈥檔 golygu ei bod yn talu i bobl fod mewn gwaith.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Hydref 2016