Darparu ar gyfer Cymru: Alun Cairns yn nodi dwy flynedd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Edrych n么l ar ddau blwyddyn llwyddiannus yn y swydd

Alun Cairns marks two years as Secretary of State for Wales
Ddwy flynedd yn 么l i heddiw (19 Mawrth), cymerodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ei sedd o amgylch bwrdd y Cabinet yn San Steffan gan amlinellu ei uchelgais i greu cenedl sy鈥檔 fwy uchelgeisiol, hyderus ac sy鈥檔 edrych tuag allan yn fwy nag erioed o鈥檙 blaen.
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi goruchwylio nifer o lwyddiannau allweddol i Gymru ers mis Mawrth 2016, gan gynnwys:
Diddymu Tollau Hafren
Ar 么l i Bontydd Hafren ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus ar Ionawr 8, 2018, lleihawyd y tollau i yrwyr cyn eu diddymu鈥檔 gyfan gwbl erbyn diwedd y flwyddyn. Mae hyn yn rhoi neges i fusnesau, teithwyr a thwristiaid ein bod wedi ymrwymo i gryfhau鈥檙 cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr.
Pwerdy鈥檙 Gorllewin ac Uwchgynhadledd Twf Hafren
Daeth dros 300 o westeion o ddwy ochr aber Afon Hafren i Uwchgynhadledd gyntaf Twf Hafren yng Ngwesty鈥檙 Celtic Manor i archwilio sut y gellir cryfhau鈥檙 cysylltiadau rhwng economi De Cymru a De Orllewin Lloegr yn dilyn y cyhoeddiad i ddiddymu Tollau Hafren yn ddiweddarach eleni.
Trenau cyfoes newydd ar gyfer De Cymru
Bydd y fflyd newydd o drenau Intercity Express fydd yn cael eu cyflwyno ar brif linellau Great Western o Lundain yn gwella profiad teithwyr yn Ne Cymru yn sylweddol.
Deddf Cymru 2017
Derbyniodd Bil Cymru Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2017, gan sefydlu pecyn cadarn o bwerau i aelodau Cynulliad gyda sefydlogrwydd ac atebolrwydd yn ganolog iddo.
Fframwaith Cyllidol.
Mae fframwaith cyllidol newydd sy鈥檔 nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei ariannu ar 么l datganoli rhai trethi yn garreg filltir arwyddocaol i Gymru. Mae鈥檙 cytundeb yn cynnig cyllid diogel hirdymor ar gyfer Llywodraeth Cymru ac mae鈥檔 rhoi mwy o welededd i Fae Caerdydd wrth edrych ar benderfyniadau gwario.
Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf
Mae Ysgrifennydd Cymru yn goruchwylio鈥檙 broses o weithredu鈥檙 cytundeb gwerth 拢1.2bn ar gyfer Rhanbarth Cyfalaf Caerdydd 鈥� a bydd cyfraniad Llywodraeth y DU o 拢500m yn darparu cronfa fuddsoddi ar gyfer y rhanbarth a chefnogi trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Roedd hefyd yn sbardun allweddol ar gyfer Dinas-Ranbarth Bae Abertawe fydd yn darparu bron i 拢1.3bn o fuddsoddiad i鈥檙 rhanbarth. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dechrau trafodaethau ffurfiol ar Fargen Twf Gogledd Cymru ac mae鈥檔 agored i gynigion ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Band Eang
Mae buddsoddiad Llywodraeth y DU o 拢69miliwn i ddarparu band eang cyflym iawn ar draws Cymru wedi profi cynnydd cyflym o ran mynediad 鈥� o 29.4% o gartrefi a busnesau yn 2010 i 94.2% erbyn mis Rhagfyr 2017.
Y Gymraeg
Alun Cairns oedd yr Aelod Seneddol cyntaf erioed i wneud araith yn Gymraeg mewn dadl yn Nh欧鈥檙 Cyffredin, ar 么l i Lywodraeth y DU gyflwyno cynnig ym mis Chwefror y llynedd i alluogi Aelodau Seneddol i siarad Cymraeg mewn dadleuon yn San Steffan.
Cefnogaeth i fusnesau
Mae Strategaeth Ddiwydiannol fodern y Llywodraeth wedi鈥檌 chynllunio i adeiladu ar gryfderau Cymru mewn meysydd fel aerofod, technoleg a gwyddorau byw. Mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn gwthio Cymru i fanteisio i鈥檙 eithaf ar y manteision a ddaw i Gymru o鈥檙 mentrau a鈥檙 sialensiau sydd ar y gorwel.
Cefnogi allforio
Ymunodd dros 80 o gwmn茂au ag Ysgrifennydd Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru yn 2017. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gysylltu cwmn茂au oedd wrthi鈥檔 dechrau allforio gydag arbenigedd a chymorth Llywodraeth y DU.
Wrth s么n am ei ddwy flynedd yn y swydd, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi cael y fraint o brofi鈥檙 gorau sydd gan Gymru i鈥檞 gynnig 鈥� gan gysylltu 芒 phob rhan o Gymru, ei diwylliant, ei hanes a鈥檌 phobl.
Mae鈥檙 amcanion rydym ni wedi鈥檜 gwireddu dros Gymru yn ystod y cyfnod hwn yn mynd 芒 ni gam yn nes at gyflawni gweledigaeth y Llywodraeth hon i adeiladu gwlad sy鈥檔 gweithio i bawb.
Ond mae dal gwaith i鈥檞 wneud. Wrth i ni baratoi i fyw drwy un o gyfnodau pwysicaf yn hanes ein gwlad, fe fyddaf yn parhau i fwrw ati gyda鈥檙 swydd. Byddaf yn cynnig arweiniad i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa gryfaf posib i ffynnu pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, i feithrin economi sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol, ac i ddarparu cymdeithas sy鈥檔 gryfach ac yn decach i bawb.