Cyrnol James Phillips wedi penodi fel Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru gyntaf
Mae'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi penodi Cyrnol James Phillips MBA ar y cyd fel Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru.

Colonel James Phillips, 皇冠体育app Veterans' Commissioner for Wales, and Simon Hart, Secretary of State for Wales
Mae鈥檙 Swyddfa Materion Cyn-filwyr a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi penodi Cyrnol James Phillips MBA ar y cyd fel Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart ei fod wrth ei fodd bod James Phillips wedi鈥檌 benodi i鈥檙 r么l, a fydd yn adeiladu ar lwyddiant rolau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a bydd yn golygu bod gan bob gwlad ddatganoledig Gomisiynydd Cyn-filwyr.
Bydd James yn gweithio i wella鈥檙 gefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru, yn ogystal 芒 chraffu a chynghori ar bolisi鈥檙 llywodraeth ar gyfer cyn-filwyr.
Bydd sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn sicrhau bod anghenion a chyfraniadau penodol cyn-filwyr yng Nghymru yn cael eu cynrychioli.
Bydd Comisiynydd Cyn-filwyr yn helpu i gyfeirio cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd at gymorth lleol sydd ar gael mewn meysydd megis darpariaeth gofal iechyd ac iechyd meddwl, tai a chyflogaeth, yn ogystal 芒 chynorthwyo elusennau ac eirioli dros y gymuned gyn-filwyr yng Nghymru.
Mae鈥檙 penodiad wedi cael ei gyhoeddi wrth i Gymru ddathlu Dydd G诺yl Dewi ac yn ystod Wythnos Cymru yn Llundain, lle mae Llywodraeth y DU yn cynnal nifer o ddigwyddiadau.
Mae James newydd gwblhau trosglwyddiad ei hun i fywyd sifil ar 么l 33 mlynedd yn y Fyddin. Mae wedi gwasanaethu yn yr Almaen, Cyprus, Yr Iseldiroedd, Gogledd Iwerddon, y Balcanau, Afghanistan ac Iraq. Mae wedi gorchymyn milwyr, morwyr a pherson茅l awyr ac wedi gweithio yn NATO, MOD, Pencadlys y Cyd a鈥檙 Fyddin. Mae鈥檔 briod ac yn byw yn Sir Benfro gyda 4 o blant a Springer Spaniel Cymreig hynod afreolus.
Dywedodd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, Cyrnol James Phillips:
Fel cyn-filwr o fwy na deng mlynedd ar hugain, rwy鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at gael fy mhenodi鈥檔 Gomisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru. Mae鈥檙 gymuned gyn-luoedd yn rhan bwysig o gymdeithas Cymru ac mae traddodiad hir o wasanaeth ac aberth. Byddaf yn defnyddio fy mhrofiad a鈥檓 sefyllfa i wella bywydau pob cyn-filwr a鈥檜 teuluoedd.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru ac rydym yn eithriadol o falch o鈥檔 cyn-filwyr yng Nghymru. Mae ein cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch drwy gydol eu gwasanaeth a thu hwnt.
Bydd penodi Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn cynyddu ac yn cydlynu鈥檙 cymorth sydd ar gael ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i les y dynion a鈥檙 menywod sy鈥檔 gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog.
Rwy鈥檔 falch iawn y gallem wneud y cyhoeddiad hynod bwysig hwn ar Ddydd G诺yl Dewi.
Dywedodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn Steve Barclay:
Rydym am sicrhau bod gan gyn-filwyr ar draws pob cwr o鈥檙 Deyrnas Unedig fynediad at gymorth o ansawdd uchel.
Mae penodi Cyrnol Phillips i鈥檙 r么l hon bellach yn golygu bod gan bob rhan o鈥檙 DU gomisiynwyr i hyrwyddo cyn-filwyr ar draws cymdeithas a dwyn y sector cyhoeddus i gyfrif.
Dywedodd Leo Docherty, y Gweinidog Amddiffyn, Pobl a Chyn-filwyr:
Mae鈥檙 penodiad hwn yn cyflawni rhan allweddol o鈥檔 Cynllun Gweithredu Strategaeth Cyn-filwyr ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chyrnol Phillips.
Rwy鈥檔 gwybod y byddant yn gweithio鈥檔 galed i gynrychioli cyn-filwyr yng Nghymru - gan hybu cefnogaeth iddynt ledled y wlad, boed hynny鈥檔 dai, cyflogaeth neu ofal iechyd.
Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru:
Mae Cymru鈥檔 darparu ystod eang o gymorth i gyn-filwyr 鈥� o Gyn-filwyr GIG Cymru i鈥檔 Swyddogion Cyswllt Lluoedd Arfog 鈥� ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi pawb sydd wedi gwasanaethu.
Mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn benodiad Llywodraeth y DU. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyrnol James Phillips fel rhan o鈥檔 hymrwymiad i gyn-filwyr ledled Cymru.
Bydd Cyrnol Phillips yn adrodd yn uniongyrchol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn Steve Barclay a鈥檙 Gweinidog Amddiffyn, Pobl a Chyn-filwyr Leo Docherty.
Ym mis Ionawr lansiodd y Swyddfa Materion Cyn-filwyr Gynllun Gweithredu Strategaeth Cyn-filwyr y llywodraeth. Mae鈥檙 ymrwymiadau yn y cynllun sy鈥檔 ymwneud 芒 Chymru yn cynnwys:
- Cynyddu data a dealltwriaeth o鈥檙 garfan cyn-filwyr yng Nghymru, drwy鈥檙 cwestiwn cyntaf i gyn-filwyr yn y Cyfrifiad y llynedd yng Nghymru a Lloegr. Bydd hyn yn ein galluogi i gyhoeddi mewnwelediadau a ddatblygwyd o ddata鈥檙 cyfrifiad ar draws ystod o bynciau sy鈥檔 effeithio ar gyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd, o iechyd a lles i dai a chyflogaeth.
- Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwasanaeth gofal iechyd meddwl arbenigol Cyn-filwyr GIG Cymru a Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr Cymru (VTN) ar gyfer cyn-filwyr ag anafiadau corfforol cymhleth.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog (AFLOs) a phartneriaid gan gynnwys cydgysylltwyr atal hunanladdiad a hunan-niweidio rhanbarthol i hyrwyddo hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn cyhoeddi Cyfamod newydd y Lluoedd Arfog, Blaenoriaeth Gofal Iechyd i Gyn-filwyr, yn amodol ar ddatblygiadau yn y DU gan gynnwys Bil y Lluoedd Arfog.