Datganiad i'r wasg

Penodi Aelod ar ran Cymru i Fwrdd y BBC

Mae Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi yn Aelod o Fwrdd y BBC i gynrychioli Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Mae鈥檙 Llywodraeth heddiw wedi cyhoedd enw鈥檙 sawl sydd wedi鈥檌 benodi i gynrychioli Cymru ar Fwrdd newydd y BBC, yn dilyn proses recriwtio agored a chystadleuol. Cadarnhawyd mai Elan Closs Stephens fydd yr aelod ar ran Cymru ar Fwrdd newydd y BBC.

Mae Bwrdd newydd y BBC, sy鈥檔 gyfrifol am oruchwylio BBC cryf ac annibynnol, yn cynnwys 14 o aelodau.

  • Cadeirydd a benodir drwy broses penodiadau cyhoeddus wedi鈥檌 chydlynu gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Cadeiriwyd y panel dewis ar gyfer y penodiad hwn gan Asesydd Penodiadau Cyhoeddus, a enwebwyd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus
  • pedwar aelod anweithredol o鈥檙 bwrdd yn cynrychioli pob un o鈥檙 gwledydd datganoledig, hefyd wedi鈥檜 penodi drwy broses penodiadau cyhoeddus wedi鈥檌 chydlynu gan DCMS
  • pum aelod anweithredol o鈥檙 bwrdd wedi鈥檜 penodi gan Fwrdd y BBC
  • a phedwar aelod gweithredol wedi鈥檜 penodi gan y BBC, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall

Elan Closs Stephens yw Comisiynydd Etholiadol Cymru ar hyn o bryd, ac mae鈥檔 Athro Emeritws Cyfathrebu a鈥檙 Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae鈥檔 arbenigo ym maes polisi rheoleiddio darlledu a diwylliannol. Hi oedd Cadeirydd Adolygiad Stephens i Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, yn Llywodraethwr Sefydliad Ffilm Prydain a bu鈥檔 Gadeirydd S4C, Sianel Pedwar Cymru, am ddau dymor.

Dywedodd Karen Bradley, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Digidol a Chwaraeon:

Mae gan Elan Closs Stephens record arbennig o dda o feithrin talent ac o hyrwyddo鈥檙 diwydiannau creadigol ledled Cymru. Mae ganddi gyfoeth o brofiad ac rwy鈥檔 si诺r y bydd y penodiad yn gam gadarnhaol ymlaen i ddyfodol y BBC yng Nghymru.

Dywedodd Elan Closs Stephens:

Mae鈥檔 fraint cael fy newis yn Gyfarwyddwr Anweithredol y BBC dros Gymru ar adeg gyffrous o ffurfio鈥檙 Bwrdd newydd. Mae gen i ddau ddyhead sylfaenol. Rwyf am gyfrannu at sicrhau bod y BBC yn cael ei lywodraethu鈥檔 gadarn a fydd yn helpu i鈥檞 wneud yn un o鈥檙 darlledwyr uchaf ei barch yn y byd. Ac rwy鈥檔 benderfynol o weld Cymru yn cael ei phortreadu鈥檔 fwy cyflawn yma yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Rwy鈥檔 falch iawn fod Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi ar Fwrdd Unedol y BBC. Mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y cyfryngau a鈥檙 diwydiannau creadigol a bydd yn sicrhau bod llais y gynulleidfa yng Nghymru yn cael ei glywed yn glir ac yn uchel o gwmpas y bwrdd.

Mae鈥檙 BBC yn sefydliad Prydeinig gwych sy鈥檔 diddanu ac yn addysgu ac sydd hefyd yn helpu i ddangos Prydain ar ei gorau ar draws y byd. Yn ddiamau bydd ei phenodiad o fudd enfawr i鈥檙 darlledwr a dymunaf bob llwyddiant iddi yn y r么l.

DIWEDD

Ymholiadau鈥檙 cyfryngau: Swyddfa鈥檙 Wasg yn DCMS 020 7211 6145

Nodiadau i Olygyddion:

Elan Closs Stephens ydy鈥檙 Athro Emeritws Cyfathrebu a鈥檙 Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod ei chyfnod yn Aberystwyth, bu鈥檔 dysgu ac yn cefnogi llawer o bobl ifanc sydd, ers hynny, wedi cael gyrfaoedd disglair fel awduron, actorion, cyfarwyddwyr a chomisiynwyr rhaglenni. Mae鈥檔 arbenigo ym maes polisi rheoleiddio darlledu a diwylliannol. Hi oedd Cadeirydd Adolygiad Stephens i Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, yn Llywodraethwr Sefydliad Ffilm Prydain a bu鈥檔 Gadeirydd S4C, Sianel Pedwar Cymru, am ddau dymor. Mae鈥檔 Aelod o Awdurdod S4C tan 31 Hydref 2018. Am y chwe blynedd diwethaf tan ddiwedd y Siarter, bu鈥檔 Ymddiriedolwr Cymru ar gorff llywodraethu鈥檙 BBC, Ymddiriedolaeth y BBC. Mae鈥檔 Gyfarwyddwr Anweithredol uwch Fwrdd Ysgrifennydd Parhaol Cymru ac mae wedi cadeirio Pwyllgor Archwilio a Risg y Bwrdd ers 2008. Mae hefyd wedi cadeirio Bwrdd Adfer Cyngor Sir Ynys M么n. Derbyniodd y Warant Frenhinol i weithredu fel Comisiynydd Etholiadol Cymru o fis Ebrill 2017.

Cymraeg yw iaith gyntaf Elan. Fe鈥檌 maged yn Nyffryn Nantlle yng ngogledd Cymru a graddiodd o Goleg Somerville, Rhydychen. Derbyniodd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2001 am wasanaethau i ddarlledu a鈥檙 iaith Gymraeg.

Mae鈥檙 penodiadau hyn wedi cael eu gwneud yn unol 芒 Chod Llywodraethu Swyddfa鈥檙 Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus. Fel y nodir yn y Cod, rhaid datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol sylweddol a gyflawnwyd gan benodai yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn unol 芒鈥檙 diffiniad, mae hyn yn cynnwys dal swydd, siarad yn gyhoeddus, rhoi rhodd cofnodadwy, neu bod yn ymgeisydd mewn etholiad. Nid yw Elan Closs Stephens wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol o鈥檙 fath.

O dan delerau Siarter Brenhinol y BBC, y Frenhines sy鈥檔 penodi Cadeirydd y BBC ac aelodau鈥檙 bwrdd yn unol ag argymhellion Gweinidogion (yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, drwy鈥檙 Prif Weinidog).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Gorffennaf 2017