Gofynnwch gwestiwn gwirion...
Heddiw, mae DVLA wedi rhyddhau rhestr o rai o鈥檙 cwestiynau anarferol y mae cwsmeriaid wedi gofyn wrth geisio cael gwybod os yw eu car wedi鈥檌 drethu.

Mae gwasanaethau DVLA ar Google Assistant ac Amazon Alexa yn galluogi modurwyr i ofyn DVLA pryd mae eu treth cerbyd yn ddyledus gan ddarparu鈥檙 rhif cofrestru. Mae鈥檙 gwasanaethau hyn wedi cael eu defnyddio dros 47,000 o weithiau gan dros 20,000 o ddefnyddwyr unigryw ers iddynt gael eu lansio 2 flynedd yn 么l.
Tra bod y nifer helaeth o bobl wedi gofyn pryd mae eu treth yn ddyledus, mae rhai wedi gofyn rhai cwestiynau mwy anarferol, gan gynnwys:
- sut i gael gwm cnoi oddi ar soffa lledr?
- sut gallaf wneud cais am Love Island?
- wyt ti鈥檔 gwybod rys谩it fegan dda am gyw i芒r?
- ydy ceir coch yn gyflymach?
- pa amser mae cinio?
- a fydd hi鈥檔 bwrw glaw yn Ellesmere Port heddiw?
- beth oeddet ti鈥檔 meddwl o鈥檙 ffilm Bumblebee?
- sut allaf stopio fy nghydletywr rhag yfed fy llaeth?
- ble mae fy hosanau?
- ydy鈥檙 frech hon yn normal?
Dywedodd Prif Weithredwr DVLA Julie Lennard:
Rydym am i fodurwyr allu ddefnyddio ein gwasanaethau yn gyflym ac yn hawdd ac mae cynorthwywyr llais yn dod yn fwy-fwy poblogaidd. Tra bod rhai o鈥檙 cwestiynau y mae cwsmeriaid wedi gofyn i ni ychydig allan o鈥檔 hardal o arbenigedd, byddwn yn parhau i wneud ein gwasanaethau yn syml, gwell a diogel.
Mae bron i 98% o ryngweithiadau gyda DVLA nawr yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio gwasanaethau digidol DVLA.
Gall unrhyw un sy鈥檔 dymuno rhoi cynnig ar yr Alexa Skill , neu os oes ganddynt Google Home neu Google Assistant ar ei ff么n neu lechen gallent ofyn iddo 鈥淭alk to DVLA鈥� neu 鈥淎sk DVLA鈥�.
Nodiadau i olygyddion
Mae鈥檙 Google Assistant ac Amazon Alexa Skill yn galluogi cwsmeriaid i gadarnhau manylion am eu cerbyd yn yr un modd ag y gallent drwy ddefnyddio鈥檙 Gwasanaeth Ymholiad Cerbyd ar GOV.UK.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407