Alun Cairns: Llywodraeth y Deyrnas Unedig "wrth law ac yn barod" i gefnogi gweithwyr Tata a鈥檙 gymuned
Ysgrifennydd Cymru yn bresennol yng nghyfarfod Tasglu Tata Steel yng Nghaerdydd

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud popeth o fewn ei gallu yn yr ymgyrch i ddiogelu dyfodol strategol diwydiant dur Prydain, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw (4 Ebrill).
Mae Mr Cairns yng Nghaerdydd ym mhedwerydd cyfarfod Tasglu Tata Steel.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, amlinellodd Mr Cairns ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi鈥檙 diwydiant i sicrhau dyfodol hyfyw yn y tymor hir.
Dywedodd:
Blaenoriaeth absoliwt y Llywodraeth hon yw edrych ar 么l y gweithwyr a鈥檙 gymuned ehangach drwy weithio gyda Tata Steel a Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ateb hirdymor.
Rydym wedi bod yn gweithio鈥檔 helaeth gyda鈥檙 diwydiant, a gyda Tata yn benodol, i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 anawsterau mae鈥檔 eu hwynebu. Dyna pam rydym wedi cymryd camau pendant i鈥檞 digolledu nhw am eu costau ynni a sicrhau hyblygrwydd ynghylch rheoliadau allyriadau鈥檙 Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd yn parhau 芒鈥檔 hymdrechion i fynd i鈥檙 afael ag arferion masnachu annheg ar lefel yr Undeb Ewropeaidd ac ar lefel ryngwladol. Ers cyflwyno tariffau ar rebar, er enghraifft, mae mewnforion o Tsieina o鈥檙 math arbennig hwn o ddur wedi gostwng 99%.
Ychwanegodd Mr Cairns:
Mae gennyf brofiad uniongyrchol o sut gallai rhai fod yn teimlo ar yr adeg anodd hon. Collodd fy nhad ei swydd yn y gwaith dur ar 么l 30 mlynedd o wasanaeth fel weldiwr. Rwy鈥檔 benderfynol y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddod o hyd i fuddsoddwr hirdymor a diogel yn y gwaith hwn, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth law ac yn barod i gynnig ei chefnogaeth er budd uniongyrchol y gweithwyr a鈥檙 gymuned.