Datganiad i'r wasg

1,000 o fusnesau newydd wedi eu creu yng Nghymru gan Start Up Loans

Alun Cairns: "Mae'r Llywodraeth hon yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid a chrewyr swyddi"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Heddiw, (9 Gorffennaf) cyhoeddodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Busnes, mai menyw yn ei hugeiniau o Gastell-nedd Port Talbot, a sefydlodd fusnes nwyddau i鈥檙 cartref sy鈥檔 gwerthu cynnyrch a wnaed ym Mhrydain yn unig, oedd y 1000fed unigolyn yng Nghymru i gael benthyciad dechrau busnes.

Fe wnaeth Sophie Rees, a raddiodd yn 2014 o Brifysgol Fetropolitan Abertawe, sefydlu鈥檙 busnes i wireddu ei breuddwyd o fod yn fos arni hi ei hun a lansio siop nwyddau i鈥檙 cartref.

Cyfarfu Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, 芒 Sophie yn ystod ymweliad ag Abertawe heddiw ynghyd 芒鈥檙 t卯m sy鈥檔 gyfrifol am Daith Fws StartUp Britain. Hyd yn hyn mae 拢6 miliwn wedi ei fenthyca i ddarpar berchnogion busnes fel Sophie.

Gyda chefnogaeth gan Start Up Loans Company, mae ymgyrch StartUp Britain yn teithio鈥檙 wlad gydag arbenigwyr a hyrwyddwyr dechrau busnes, er mwyn cynnig ysbrydoliaeth a chefnogaeth i ddarpar entrepreneuriaid.

Dywedodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Busnes:

Rwyf wrth fy modd ein bod yn dathlu鈥檙 1,000fed benthyciad dechrau busnes yng Nghymru heddiw wrth i Daith Fws StartUp Britain gyrraedd Abertawe. Rydym yn ei gwneud yn haws cael cyngor ac yn darparu cyllid fel bod miloedd o bobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed yn cael y cyfle i gyflawni eu huchelgais a dechrau eu busnesau eu hunain.

Mae llwyddiant Prydain yn seiliedig ar waith entrepreneuriaid - ar eu breuddwydion a鈥檜 huchelgais. Dyna pam rydym yn eu cefnogi, ac yn gwneud y Deyrnas Unedig y lle gorau yn y byd i ddechrau a meithrin busnesau.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae Sophie wedi dangos yn union beth ellir ei wneud pan ddaw uchelgais a chyfle at ei gilydd, ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gallu ei chefnogi hi.

Rwyf eisiau sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa ar yr adferiad economaidd a bod y rhai sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed yn cael y cyfleoedd sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo.

Drwy helpu pobl i wireddu eu breuddwydion am ddechrau busnes bach, mae鈥檙 Llywodraeth hon yn helpu i greu鈥檙 genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid a chrewyr gwaith.

Dywedodd Tim Sawyer, Prif Swyddog Gweithredol Start Up Loans:

鈥楻ydym wrth ein boddau ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir gyntaf hon yng Nghymru. Mae Sophie yn enghraifft wych o鈥檙 llu o ddoniau busnes sy鈥檔 ffynnu ledled y Deyrnas Unedig.

Byddwn yn parhau i annog pobl Cymru i wireddu eu breuddwydion busnes a鈥檔 helpu ni i gyrraedd carreg filltir arall yn y dyfodol agos.鈥�

Ar 么l graddio, fel cymaint o rai eraill sydd wedi cael benthyciad dechrau busnes, penderfynodd Sophie Rees ei bod hi eisiau cyflawni ei breuddwyd o fod yn fos arni hi ei hun yn hytrach na gweithio i rywun arall, a hynnydrwy lansio siop nwyddau i鈥檙 cartref o鈥檙 enw Home Bird. Ar 么l siarad gyda chynrychiolydd ym Manc Barclays cafodd ei chyfeirio at Busnes mewn Ffocws, un o bartneriaid cyflenwi Start Up Loans.

Dim ond cynnyrch a wnaed ym Mhrydain y bydd Home Bird yn eu gwerthu, a bydd 20% o鈥檙 eitemau yn cael eu gwneud 芒 llaw gan Sophie wrth iddi ddefnyddio鈥檙 sgiliau a ddatblygodd wrth astudio. Ar hyn o bryd mae Sophie yn adnewyddu鈥檙 siop ar ei phen ei hun, a鈥檙 bwriad yw agor ddiwedd mis Gorffennaf 2015. Sophie fydd yr unig weithiwr cyflogedig yn y lle cyntaf, a bydd hefyd yn parhau i weithio鈥檔 rhan-amser gyda鈥檙 nos mewn gwesty lleol, ond yn y dyfodol mae hi鈥檔 gobeithio y bydd hi鈥檔 gallu rhoi鈥檙 gorau i鈥檞 swydd gyda鈥檙 nos.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Gorffennaf 2015