Casgliad

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i unigolion: cam wrth gam

Dysgwch sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i gofrestru’ch busnes os ydych yn gymwys.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd i unig fasnachwyr a landlordiaid adrodd am eu hincwm a’u treuliau i CThEF.�

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae’n rhaid i rai unig fasnachwyr a landlordiaid ei ddefnyddio, yn seiliedig ar gyfanswm eu hincwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo.

Bydd angen i chi, neu’ch asiant os oes gennych un, ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:

  • creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o’ch hunangyflogaeth ynghyd ag incwm a threuliau eiddo
  • anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF
  • cyflwyno eich Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol

Mae’r llywodraeth wedi gosod cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gwsmeriaid gyflwyno’u Ffurflenni Treth drwy eu meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Pwy sydd angen cofrestru

Bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol. Rydych:

1. Cyfrifwch eich incwm cymhwysol

Dysgwch am beth sydd wedi’i gynnwys yn eich incwm cymhwysol at ddibenion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn gwirio a oes angen i chi gofrestru.

2. Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun

Gwiriwch a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am eich busnes fel unig fasnachwr a’ch incwm o eiddo. Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i ddysgu pryd mae angen i chi ddechrau arni.

3. Cael meddalwedd gydnaws

Dysgwch am yr opsiynau sydd ar gael gan wahanol ddarparwyr o ran meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i ddewis y feddalwedd gywir at eich anghenion. Cofiwch gysylltu’ch cyfrif presennol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF â’r feddalwedd o’ch dewis.

4. Cofrestrwch ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch pa dasgau y mae angen i chi eu cwblhau cyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

5. Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch am beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl cofrestru a’r gwahanol dasgau y mae angen i chi eu gwneud yn ystod y flwyddyn dreth. Mae’r rhain yn cynnwys creu cofnodion digidol a’u cadw, anfon diweddariadau chwarterol, a beth i’w wneud os bydd newid yn eich amgylchiadau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Mai 2025 show all updates
  1. Mae’r wybodaeth am bwy fydd angen cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol wedi’i diweddaru.

  2. First published.