Casgliad

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel asiant: cam wrth gam

Os ydych yn asiant, dysgwch sut i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar ran eich cleientiaid.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd i unig fasnachwyr a landlordiaid adrodd am eu hincwm a’u treuliau i CThEF.�

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae’n rhaid i rai unig fasnachwyr a landlordiaid ei ddefnyddio, yn seiliedig ar gyfanswm eu hincwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo.

Bydd angen i chi neu’ch cleient ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn: 

  • creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o’i hunangyflogaeth ynghyd ag incwm a threuliau eiddo
  • anfon ei ddiweddariadau chwarterol at CThEF
  • cyflwyno ei Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol

Cyn cofrestru ar gyfer y cynllun, bydd angen i chi a’ch cleient benderfynu sut y byddwch yn bodloni’r gofynion hyn, a dewis y feddalwedd sy’n bodloni ei ofynion orau.

Mae’r llywodraeth wedi gosod cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gwsmeriaid gyflwyno’u Ffurflenni Treth drwy eu meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Pwy fydd angen cofrestru

Bydd angen i chi a’ch cleient ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol: Mae’ch cleient:

1. Cyfrifwch incwm cymhwyso eich cleient

Dysgwch am beth sydd wedi’i gynnwys yn incwm cymhwysol eich cleient at ddibenion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn gwirio a oes angen i’ch cleient gofrestru.

2. Darganfyddwch a oes angen i'ch cleient ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd

Gwiriwch a oes angen i’ch cleient ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am ei incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i ddysgu pryd mae angen i’ch cleient ddechrau arni.

3. Creu cyfrif gwasanaethau asiant

Bydd angen cyfrif gwasanaethau asiant arnoch i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Dysgwch sut i greu cyfrif gwasanaethau asiant gyda CThEF os nad oes gennych un eisoes.

4. Cael meddalwedd gydnaws

Dysgwch am yr opsiynau sydd ar gael gan wahanol ddarparwyr o ran meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i ddewis y feddalwedd gywir at anghenion eich cleient. Cofiwch i gael awdurdodiad gan eich cleient yn gyntaf a chysylltwch eich cyfrif presennol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF â’r feddalwedd o’ch dewis.

5. Cofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch am ba dasgau y mae angen i chi eu cwblhau cyn cofrestru’ch cleient. Mae hyn yn cynnwys cael caniatâd ac awdurdodiad eich cleient. Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau asiant i gael awdurdodiad cyn cofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

6. Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl cofrestru’ch cleient a’r gwahanol dasgau y mae angen i chi a’ch cleient eu gwneud yn ystod y flwyddyn dreth. Mae’r rhain yn cynnwys creu cofnodion digidol a’u cadw, anfon diweddariadau chwarterol, a beth i’w wneud os bydd newid yn eich amgylchiadau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Mai 2025 show all updates
  1. Mae’r wybodaeth am bwy fydd angen cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol wedi’i diweddaru.

  2. First published.