Casgliad

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiadau

Adroddiadau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys ar ffurf CSV.

Mae鈥檙 casgliad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ystadegyn Cenedlaethol yw Mynegai Prisiau Tai y DU. Cyhoeddir bob chwarter.

Mae ailgyhoeddi data yn egluro鈥檙 amodau defnyddio. Trwy lawrlwytho鈥檙 data rydych yn cytuno i鈥檙 amodau hynny.

Cyhoeddi鈥檙 Mynegai Prisiau Tai nesaf

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2024 am 9.30am ddydd Mercher 18 Mehefin 2025. Gweler y聽calendr dyddiadau rhyddhau聽am ragor o wybodaeth.

Nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon

Rydym wedi newid y ffordd y cyhoeddir nifer gwerthiannau Gogledd Iwerddon ac wedi cywiro鈥檙 ffordd rydym yn eu cynnwys yn ffigurau鈥檙 DU. Rydym wedi cynhyrchu amcangyfrif misol trwy rannu cyfanswm y gwerthiannau ar gyfer y chwarter yng Ngogledd Iwerddon 芒 3.

Yn flaenorol, roedd data chwarterol Gogledd Iwerddon yn cael ei gynnwys yn nata nifer gwerthiannau misol y DU, a oedd yn arwain at ffigurau gwerthiant uwch na鈥檙 disgwyl.

Diwygiadau data

Yn dilyn adolygu amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o fis Ionawr 2021 ymlaen i 20 Mawrth 2024, i wneud defnydd o ddata prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU o 12 mis, rydym wedi nodi gwall yng nghyfrifon trafodion arian parod a morgais ar gyfer data鈥檔 rhychwantu Ionawr 2021 a Rhagfyr 2022. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod hyn wedi effeithio ar fynegeion a lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Cywirwyd cyfrif trafodion arian parod a morgais ar gyfer Ionawr 2021 i Ragfyr 2022 yn nata Mynegai Prisiau Tai y DU a gyhoeddwyd ar 17 Ebrill 2024 ac yn dilyn datganiadau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Newid methodoleg ar gyfer eiddo newydd

Mae鈥檔 cymryd amser i drafodion eiddo gael eu prosesu a bod ar gael mewn data prisiau a data nodweddion eiddo i鈥檞 cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae鈥檙 broses hon yn cymryd yn hwy ar gyfer eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd nag ar gyfer eiddo sy鈥檔 bodoli, sy鈥檔 arwain at gyfan is o werthiannau eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd sydd ar gael i gyfrifo鈥檙 amcangyfrif pris a mynegai cychwynnol nag ar gyfer gwerthiannau eiddo sy鈥檔 bodoli. Felly, rydym yn dileu nifer y gwerthiannau a gadarnhawyd ar gyfer eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf (neu鈥檙 ddau chwarter diweddaraf ar gyfer Gogledd Iwerddon). Fodd bynnag, mae digon o werthiannau gennym i sicrhau bod prif ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU yn gadarn ac yn gywir.

Oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar nifer a chyflenwad y trafodion tai a broseswyd, gwnaethpwyd rhai newidiadau methodoleg oherwydd yr effaith fwy ar brosesu eiddo 鈥渁 adeiledir o鈥檙 newydd鈥� na phrosesu 鈥渉en鈥� eiddo. Er mwyn helpu i roi sylw i hyn, rydym wedi cyfuno trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd ar gyfer rhai misoedd yng Nghymru a Lloegr er 2020:

  • Medi 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Awst 2024 a Medi 2024
  • Hydref 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Fedi 2024 a Hydref 2024
  • Tachwedd 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Hydref 2024 a Thachwedd 2024
  • Rhagfyr 2024 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Dachwedd 2024 a Rhagfyr 2024
  • Ionawr 2025 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Ragfyr 2024 ac Ionawr 2025
  • Chwefror 2025 yn cynnwys trafodion eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd o Ionawr 2025 a Chwefror 2025

Nid yw Mawrth 2025 wedi ei effeithio gan nad yw鈥檙 model ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf yn defnyddio鈥檙 dangosydd eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd i ragfynegi prisiau eiddo oherwydd natur y prosesu. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd fel arfer i鈥檞 gweld yng nghyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Cofrestrfa Tir EF. Cynghorir defnyddwyr y gall amcangyfrifon ar gyfer eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd fod yn llai cynrychioliadol a gall diwygiadau i amcangyfrifon cyhoeddedig ar gyfer eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd fod yn fwy nag y buont yn hanesyddol.

Mae鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF wedi bod yn cydweithio i wella nifer y trafodion sydd ar gael i鈥檞 defnyddio ym Mynegai Prisiau Tai y DU a lleihau maint y diwygiadau. Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o鈥檙 amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd yn parhau鈥檔 is na鈥檙 cyfartaleddau hanesyddol, ond yn gwella o hyd. Mae鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn ymchwilio i welliannau methodoleg posibl sy鈥檔 ceisio lleihau鈥檙 diwygiadau yn amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU. Darllenwch ragor ym Ionawr 2025. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a dylent nodi鈥檙 ansicrwydd uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd.

Un o鈥檙 prif ffactorau sy鈥檔 penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio鈥檙 dosbarthiad demograffig-gymdeithasol, a elwir Acorn聽(wedi ei gynhyrchu a鈥檌 drwyddedu gan CACI Ltd), yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, gwnaethpwyd newid i鈥檙 ffordd y caiff trafodion eiddo ar gyfer Prydain Fawr gyda dosbarthiad Acorn coll eu defnyddio yn y model atchweliad. Mae鈥檙 gwelliant hwn yn y fethodoleg yn cynyddu cydlyniant ar draws y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Ngwybodaeth Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU ac yng ngwybodaeth sicrhau ansawdd Acorn.

Yn natganiad Medi 2024, cafodd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU eu diwygio o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod diwygio arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i鈥檙 cyfnod diwygio arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi鈥檙 ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd.

Cyn datganiad 19 Chwefror 2025, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Roedd lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU yn deillio o gymryd pris cyfartalog Ionawr 2015 set gyfeirio o eiddo a chymhwyso cyfraddau chwyddiant cyfnod unigol i gynhyrchu鈥檙 gyfres amser llawn. Yn natganiad Chwefror 2025, daeth Ionawr 2023 yn gyfnod cyfeirio newydd, a defnyddiwyd cyfraddau chwyddiant cyfnodau unigol i gynhyrchu鈥檙 gyfres amser llawn. O ddatganiad 19 Chwefror 2025, bydd mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd Ionawr 2023 = 100. Bydd ailgyfeirio yn symud y gyfres lefel prisiau ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad yn 么l symudiad canrannol cyson, ond ni fydd cyfraddau chwyddiant yn cael eu heffeithio gan ailgyfeirio, fel yr eglurir yn Adran 3: Dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yn Ansawdd a methodoleg Cofrestrfa Tir EF.

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU wedi cael ei ailgyfeirio oherwydd gall y mathau o eiddo a werthir newid dros amser. Er enghraifft, rhwng 2015 a 2023 cynyddodd cyfran y trafodion eiddo sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwerthiannau eiddo llai (er enghraifft, yn 么l cyfran roedd mwy o werthiannau fflatiau nag eiddo sengl) a lleihaodd gwerthiannau yn yr ardaloedd drutach o鈥檙 DU yn 么l cyfran (er enghraifft, yn 么l cyfran roedd mwy o werthiannau yn yr Alban nag yn Llundain). Mae diweddaru cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2015 i Ionawr 2023 yn golygu y gall Mynegai Prisiau Tai y DU adlewyrchu鈥檔 well y newid a welwyd yn y math o eiddo sy鈥檔 cael ei werthu ar hyn o bryd. Mae hyn wedi arwain at newid ar i lawr o 7.9% ar gyfer y cyfan o gyfres lefelau prisiau cyfartalog y DU. Ni chafodd cyfraddau chwyddiant ar gyfer cyfres y DU eu heffeithio gan ailgyfeirio.

Mawrth 2025

Am Fynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn dangos newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl. Mae鈥檙 cyfarwyddyd canlynol yn cynnwys:

Adroddiadau a data wedi eu harchifo

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Mehefin 2025 show all updates
  1. Added the March 2025 index.

  2. Added the September 2024 index.

  3. Added the July 2024 index.

  4. Added the March 2024 index.

  5. Added the February 2024 index.

  6. Added the January 2024 index.

  7. Added the December 2023 index.

  8. Added the November 2023 index.

  9. Added the October 2023 index.

  10. Added the September 2023 index.

  11. Added the August 2023 index.

  12. Added the July 2023 index.

  13. Added the May 2023 index.

  14. Added the April 2023 index.

  15. Added the March 2023 index.

  16. Added the February 2023 index.

  17. Added the January 2023 index.

  18. Added the December 2022 index.

  19. Added the November 2022 index.

  20. Added the October 2022 index.

  21. Added the September 2022 index.

  22. Added the August 2022 index.

  23. Added the July 2022 index.

  24. Added the June 2022 index.

  25. Added May 2022 index.

  26. Added the April 2022 index.

  27. Added the March 2022 index.

  28. Added February 2022 index.

  29. Added January 2022 index.

  30. Added December 2021 index.

  31. Added November 2021 index.

  32. Added October 2021 index.

  33. Added September 2021 index.

  34. Added August 2021 index.

  35. Added July 2021 index.

  36. Added June 2021 index.

  37. Added May 2021 index.

  38. Added April 2021 index.

  39. Added March 2021 index.

  40. Added February 2021 index.

  41. Added January 2021 index.

  42. Added December 2020 index.

  43. First published.