Defnyddio eich GOV.UK One Login

Sgipio cynnwys

Profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login

Bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login i ddefnyddio rhai gwasanaethau. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd eich gwybodaeth One Login yn cael ei storio鈥檔 awtomatig i鈥檆h GOV.UK One Login.

Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi brofi eich hunaniaeth eto y tro nesaf y bydd angen i wasanaeth wirio pwy ydych chi.

Mae yna 3 ffordd i brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login:

  • gydag ap - gallai hwn fod yn ap GOV.UK ID Check neu鈥檙 ap GOV.UK One Login
  • drwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein
  • mewn Swyddfa Bost

Bydd y dull a ddefnyddiwch yn dibynnu ar eich dyfais, os oes gennych ID gyda llun a pha fath o ID gyda llun sydd gennych.

Gydag ap

Gallwch ddefnyddio naill ai鈥檙 ap GOV.UK ID Check neu鈥檙 ap GOV.UK One Login i brofi eich hunaniaeth. Byddwch yn cael eich tywys i鈥檙 ap y mae angen i chi ei ddefnyddio pan fydd yn amser ei ddefnyddio.

Bydd angen un o鈥檙 mathau canlynol o ID llun arnoch chi:

  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • pasbort y DU
  • pasbort o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU gyda sglodyn biometrig
  • trwydded breswylio biometreg y DU (BRP)
  • cerdyn preswylio biometreg y DU (BRC)
  • trwydded Gweithwyr Ffiniol y DU (FWP)

Gallwch ddefnyddio BRP, BRC neu FWP sydd wedi dod i ben hyd at 18 mis ar 么l ei ddyddiad dod i ben.

Byddwch hefyd angen mynediad i ff么n gyda chamera sy鈥檔 gweithio.

Os ydych yn defnyddio iPhone, rhaid iddo fod yn rhedeg iOS 15 neu uwch a bod naill ai yn:聽

  • iPhone 6s neu fwy newydd os yw鈥檆h ID gyda llun yn drwydded yrru y DU
  • iPhone 7 neu fwy newydd os ydych yn defnyddio unrhyw fath arall o ID gyda llun聽

Ar gyfer ff么n Android (er enghraifft, Samsung neu Google Pixel), rhaid iddo fod yn rhedeg Android 10 neu uwch.

Byddwch yn cael arweiniad ar sut i lawrlwytho a defnyddio鈥檙 ap.

Trwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein

Bydd yn rhaid i chi ateb rhai cwestiynau diogelwch am bethau fel eich contract ff么n symudol, ac unrhyw gyfrifon banc, cardiau credyd, benthyciadau neu forgeisi sydd gennych.

Mae angen i chi hefyd roi manylion o un o鈥檙 canlynol:

  • pasbort y DU
  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • cyfrif cyfredol gyda banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU

Mewn Swyddfa Bost

Gofynir i chi:

  • roi manylion o鈥檆h ID gyda llun ar GOV.UK聽
  • fynd i , lle byddant yn sganio鈥檆h ID gyda llun ac yn tynnu llun ohonoch chi

Byddwch yn cael e-bost am ganlyniad eich gwiriad hunaniaeth - fel arfer o fewn diwrnod o fynd i Swyddfa Bost.

Byddwch angen un o鈥檙 mathau canlynol o ID gyda llun:

  • pasbort y DU
  • pasbort o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU
  • trwydded yrru cerdyn llun y DU
  • trwydded yrru cerdyn llun yr Undeb Ewropeaidd (UE)
  • cerdyn llun hunaniaeth genedlaethol o wlad yr UE, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein